British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 29 Mehefin 2011, 18:05 GMT 19:05 UK
Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yng Nghasnewydd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth dyn yng Nghasnewydd yn dweud eu bod nhw wedi cyhuddo dyn 30 oed o lofruddiaeth.

Cafodd Stanislaw Gliszczynski ei gyhuddo hefyd o geisio llofruddio ac o achosi tân yn fwriadol," meddai Heddlu Gwent.

Bu farw Ramunas Raulinautis, 34 oed, dridiau ar ôl digwyddiad yn Livingstone Place yn y ddinas ar Fawrth 8.

Fe fydd Mr Gliszczynski yn ogystal â dyn 27 oed o Gasnewydd sydd wedi cael ei gyhuddo o roi cymorth i droseddwr, yn ymddangos o flaen ynadon Caerffili ddydd Iau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific