British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 29 Mehefin 2011, 16:24 GMT 17:24 UK
Y Pafiliwn Pinc wedi ei osod ar y Maes yn Wrecsam

Pafiliwn Pinc Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011
Y Pafiliwn Pinc yn cael ei osod ar y Maes ar gyfer Eisteddfod 2011

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol ar y gorwel ac ar ei ffordd i Wrecsam.

Cafodd y Pafiliwn Pinc ei godi ar y Maes yn Fferm Bers Isaf, sydd oddi ar Ffordd Rhuthun, ddydd Mercher.

Mae'n arwydd clir o ddyfodiad y Brifwyl i'r dref.

Erbyn hyn mae wyth o dyrrau newydd uwchben y dref gan deyrnasu tan ar ôl wythnos yr Eisteddfod.

"Ychydig dros bedair wythnos sydd i fynd cyn y bydd yr Eisteddfod yn cychwyn eleni," meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts.

'Wythnos i'w chofio'

"Fe'i cynhaliwyd yn Wrecsam y tro diwethaf yn 1977, ac mae cefnogaeth a chymorth y bobl leol a'r gwirfoddolwyr wedi bod yn ardderchog dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Mae codi'r Pafiliwn Pinc - sy'n symbol eiconig o ddiwylliant Cymru - yn arwydd pellach bod y trefniadau ar gyfer yr wythnos yn dod ynghyd.

"Rydym i gyd yn edrych ymlaen am wythnos i'w chofio yn Wrecsam ddechrau Awst."

Mae trefnwyr yn gobeithio y bydd yr Eisteddfod - un o wyliau celfyddydol mawr y byd - yn denu hyd at 160,000 o ymwelwyr i ardal Wrecsam dros gyfnod y Brifwyl.

Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 6 2011.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific