British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 30 Mehefin 2011, 20:06 GMT 21:06 UK
Miloedd ar streic dros bensiynau

Streic gan 40,000 o weithwyr yng Nghymru

Yr amcangyfrif yw bod 40,000 o weithwyr sector cyhoeddus wedi bod ar streic yng Nghymru ddydd Iau oherwydd anghydfod pensiynau.

Roedd tua 1,000 o ysgolion ar gau neu wedi eu cau yn rhannol wrth i 17,000 o athrawon aros adre o'u gwaith.

Ac fe gafodd y streic effaith ar y DVLA yn Abertawe a swyddfeydd trethi ledled Cymru.

Ym Mhrydain mae tua 750,000 o athrawon a gweision sifil ar streic.

Yn ystod y dydd cafwyd ralïau mewn sawl rhan o Gymru.

Yn hwyr ddydd Mercher anogodd y Prif Weinidog David Cameron weithwyr i beidio â gweithredu - a phwysleisiodd fod rhaid diwygio'r drefn bensiynau.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn ceisio sicrhau na fyddai'r streic yn cael effaith sylweddol.

Bu tri undeb athrawon, yr NUT, ATL ac UCU, yn gweithredu'n ddiwydiannol.

Hwn yw'r tro cynta erioed i aelodau'r ATL bleidleisio i fynd ar streic.

Oed pensiwn

Cafodd streic aelodau'r PCS effaith ar y llysoedd, Y Swyddfa Ystadegau, canolfannau gwaith, Tŷ'r Cwmnïau, a swyddfeydd pasport.

Gwrthwynebu mae'r staff godi oed pensiwn, codi cyfraniadau gweithwyr a'r cysylltiad pensiwn i fod â Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn hytrach na Mynegai Prisiau Manwerthu.

Miloedd o athrawon ar streic

Roedd Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar gau.

Fe ddechreuodd aelodau'r PCS yn yr Asiantaeth Ffiniau ym Maes Awyr Caerdydd eu streic am 6pm ddydd Mercher gan achosi peth oedi i deithwyr.

Credir bod tua 1,000 o bobl mewn gorymdaith yng Nghaerdydd amser cinio a thua 400 yn Abertawe a tua 80 yn Wrecsam.

"Does 'na neb eisiau bod ar streic ond dwi ddim yn gwybod be arall allwn ni wneud," meddai Peter Harris, swyddog cenedlaethol undeb y PCS yng Nghymru.

Bu cynrychiolwyr undebau'n cyfarfod â Gweinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt, ddydd Mercher ym Mae Caerdydd er mwyn galw ar Lywodraeth Cymru i roi pwysau ar Lywodraeth San Steffan.

Wnaeth gweinidogion Cymru ddim croesi llinell biced er eu bod yn parhau a'u gwaith.

Mae'r Llywodraeth Cymru yn mynnu mai gyda'r Llywodraeth yn San Steffan y mae'r anghydfod nid gyda nhw.

"Dydi pensiynau ddim yn fater sydd wedi ei ddatganoli," meddai llefarydd.

"Fe fydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau na fydd y streic yn cael llawer o effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus."



HEFYD
Ysgolion ar gau oherwydd streic
30 Meh 11 |  Newyddion
'Cannoedd o ysgolion ar gau'
28 Meh 11 |  Newyddion
Ysgolion ar gau oherwydd streic
28 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific