British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 30 Mehefin 2011, 06:16 GMT 07:16 UK
Llywodraeth yn methu targedau yn ôl adroddiad WWF

Traffig ar draffordd
Mae targedau allyriadau yn cael eu methu yn ôl yr adroddiad

Mae Llywodraeth Cymru yn methu cyrraedd rhai o'r amcanion i gwtogi allyriadau carbon, yn ôl adroddiad.

Dywed WWF Cymru bod targedau yn cael eu methu o ran datblygiad economaidd, trafnidiaeth a thai.

Mae'r elusen yn annog y llywodraeth i wneud mwy ar ôl i ffigyrau ddangos bod allyriadau yn codi yng Nghymru tra eu bod yn gostwng yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn falch o'r cynnydd ar faterion gwyrdd er bod 'na fwy o waith i'w wneud o hyd.

WWF wnaeth gomisiynu'r adroddiad gan Dr Alan Netherwood.

Mae'n dadansoddi perfformiad y meysydd polisi yn erbyn targedau'r llywodraeth.

Er bod amaethyddiaeth, ynni a gwastraff yn cael ei ganmol mae 'na bryderon am yr ardaloedd eraill.

Mae adroddiad arall gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Iau hefyd, yn dweud bod y data diweddara am allyriadau yn dangos gostyngiad yn Yr Alban o 2.9% a 0.4% yng Ngogledd Iwerddon.

Amcanion clir

Ar hyn o bryd does 'na ddim tystiolaeth bod yr ymdrechion yn cyrraedd y nod
Anne Miekle

Mae 'na gynnydd o 4.7% yng Nghymru yn 2008.

Dydd Iau mae WWF Cymru yn cynnal cynhadledd yng Nghaerdydd er mwyn astudio sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud y toriadau dros y pum mlynedd nesaf.

"A ydan ni ar y targed cywir?" holodd Anne Miekle, Pennaeth WWF Cymru.

"Yr ateb byr yw nad ydan ni'n gwybod ond mai 'o bosib' yw'r ateb tebygol.

"Rydym yn llongyfarch y llywodraeth flaenorol ar osod amcanion clir ac i osod fframwaith polisi er mwy cyrraedd y nod.

"Ond ar hyn o bryd does 'na ddim tystiolaeth bod yr ymdrechion yn cyrraedd y nod."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu adroddiad WWF fel ffactor pwysig yn yr adolygiad.

"Rydym yn falch o'r cynnydd sydd wedi ei wneud....yn enwedig yn nhermau gwastraff, ynni effeithiol a thrafnidiaeth.

"Ond rydym yn derbyn bod 'na waith sylweddol i'w wneud eto ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda WWF wrth i ni ddatblygu ein polisïau a rhaglenni."



HEFYD
'Creu miloedd o swyddi gwyrdd'
30 Maw 11 |  Newyddion
Cyhoeddi cynllun cynaliadwyedd
07 Maw 11 |  Newyddion
'Diffyg gwybodaeth' ar dargedau carbon
30 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific