Wrth gyhoeddi ei hadroddiad blynyddol mae S4C yn cydnabod y bu'r flwyddyn ddiwethaf yn un gythryblus a bod her yn wynebu'r sianel yn y dyfodol.
Yn ystod 2010 fe adawodd y Prif Weithredwr Iona Jones a Chadeirydd yr Awdurdod John Walter Jones yn ogystal â'u Cyfarwyddwr Comisiynu Rhian Gibson.
Mae'r nifer sy'n gwylio yn gostwng
Mae'r adroddiad yn dangos hefyd bod nifer gwylwyr y sianel yn ystod yr oriau brig wedi disgyn eto'r llynedd er iddi gael llwyddiannau hefyd.
Mae 'na ddiwyg cyfoes a deniadol i'r adroddiad, un sy'n amlwg i fod i adleisio strategaeth y Cadeirydd newydd, Huw Jones, am y gwasanaeth i'r dyfodol.
Yn yr adroddiad mae Huw Jones yn cydnabod ei bod yn flwyddyn anodd i'r Sianel a bod 'na "benawdau papur newydd na fyddai neb wedi eu dymuno".
Ond mae'n dweud bod rhaid edrych ymlaen a thaclo'r "cwestiynau strwythurol ac ariannol".
Pryder
Fe adawodd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Comisiynu yn ogystal â Chadeirydd yr Awdurdod yn ddiweddarach.
Er i Iona Jones adael ym mis Gorffennaf - mae'r adroddiad yn dangos iddi dderbyn ei chyflog am y flwyddyn yn llawn - cyflog a chyfraniadau pensiwn o dros £170,000.
Yn ôl holl ffigyrau'r adroddiad mae un yn amlwg yn mynd i achosi pryder.
Dal i ostwng y mae nifer y gwylwyr yn ystod yr oriau brig.
Ar gyfartaledd 28,000 oedd yn gwylio yn ystod 2010.
Yn ôl yr adroddiad mae cyfartaledd o 30,000 yn gwylio yn ystod yr oriau brig (6.30pm-9.30pm) ers naw mlynedd.
Yr her i'r rheolwyr yw ceisio cynnal y niferoedd yma'r flwyddyn nesaf pan fydd ganddyn nhw 24% yn llai o gyllid, £25 miliwn y flwyddyn am bedair blynedd.
'Gwasaneth cryf a deiniadol'
Mae'r Cadeirydd newydd yn gobeithio y gall y Sianel droi'r golygon at gynnal "gwasanaeth teledu Cymraeg cryf a deniadol".
Cadarnhadwyd mai Huw Jones yw'r Cadeirydd newydd ym mis Mai
O 2013 ymlaen fe fydd S4C yn cael ei chyllido gan y BBC drwy'r drwydded deledu.
Ym mis Mai y cafodd Mr Jones, cyn-Brif Weithredwr y Sianel, ei gadarnhau yn gadeirydd yr awdurdod.
"Fy ngobaith i yw troi'r sylw yn awr at yr her sydd o'n blanau, sef sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaeth teledu Cymraeg cryf a deniadol, a fydd wrth fodd cynifer â phosib o wylwyr, wrth i ni fynd i'r afael â'r cwestiynau strwythurol ac ariannol sy'n ein hwynebu.
"Yn ystod yr wythnosau nesaf, mae gofyn i ni ddod i gytundeb ag Ymddiriedolaeth y BBC a'r Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ynglŷn â manylion y bartneriaeth a'r dull ariannu newydd sydd i ddod i rym yn ystod 2013.
"Fe fyddwn hefyd yn bwrw iddi i benodi Prif Weithredwr parhaol a Chyfarwyddwr Cynnwys."
Ychwanegodd y byddai S4C yn "cymeradwyo strategaeth er mwyn darparu gwasanaeth cyfoes a deiniadol mewn cyfnod o doriadau, ac yn ystyried pob dull posib o gwtogi ar wariant nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â chreu rhaglenni a chynnyws".
Gwell perthynas
Roedd Syr Jon Shortridge, cyn Brif Was Sifil Cymru, wedi dweud nad oedd 'na ddigon o gysylltiad rhwng Awdurdod S4C - y corff sy'n goruchwilio'r sianel - a'r bwrdd rheoli sydd yng ngofal y penderfyniadau o ddydd i ddydd.
Dywedodd Mr Jones bod ei argymhellion o ran y berthynas yma yn cael ei weithredu.
Ychwanegodd fod barn pobl Cymru yn cael ei chlywed a'i deall.
Gan iddo gael ei benodi i wasanaethu am bedair blynedd ac mai pedair blynedd hefyd yw hyd y sicrwydd ariannol a roddwyd i'r sianel tan Hydref 2010 mae dyfodol S4C, meddai, y tu hwnt i hynny "yn dibynnu ar ganlyniad adolygiad allanol sydd i ddigwydd cyn diwedd y cyfnod".
Ychwanegodd Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr y sianel, fod y rhaglenni sydd wedi eu gwneud yn ystod y flwyddyn y "rhaglenni y byddai unrhyw ddarlledwr yn falch ohonyn nhw".
"Wrth gwrs mae 'na fannau gwan yma ac acw - ond yn gyffredinol mae'n weddol glir i mi erbyn hyn bod yr amserlen gyfredol yn un sy'n denu cynulleidfa fwy nad yn ystod 2009.
"Erbyn hyn mae pobl wedi dod i arfer gwylio'r sianel ar sawl platfform - ar gyfrifiadur a ffôn symudol," ychwanegodd.
Mae'r adroddiad yn son hefyd bod y sianel wedi cychwyn gwasanaeth newydd, Clirlun, y gwasanaeth manylder uwch tra bod sianel S4C2 wedi dod i ben a hynny er mwyn "cyfeirio'r adnoddau i'r brif sianel".
Mae technoleg newydd hefyd wedi cael sylw gan y sianel yn ystod y flwyddyn gyda'r wefan yn cael ei datblygu'n gyson yn ogystal â lansio gwasanaethau ar yr iPhone.
Cafodd nifer o raglenni'r sianel lwyddiant drwy ennill gwobrau Bafta, gwobrau yn Yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd a llu o wobrau eraill.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.