Ni fydd y cynllun difa yn digwydd wedi'r cwbl
|
Mae cadeiryddion tri o fyrddau rhanbarthol yn ymwneud â cheisio cael gwared ar TB mewn gwartheg wedi ymddiswyddo. Daw'r penderfyniad ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi na fydd yna gynllun difa moch dear yng ngorllewin Cymru am y tro. Dywed y tri eu bod wedi cael eu "camarwain a'i diystyru gan Lywodraeth Cymru." Y tri sy'n ymddiswyddo yw John Owen, Peredur Hughes a John Stevenson. Cyhoeddodd John Griffiths, y Gweinidog Amgylchedd, y byddai panel yn cynnal arolwg o'r wybodaeth wyddonol cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud. Mewn llythyr at Mr Griffiths, dywed y tri: "Rydym yn teimlo ein bod wedi cael ei'n camarwain a'n diystyru yn llwyr, ac oherwydd hynny rydym ni wedi bod yn camarwain y rhai sy wedi bod yn gofyn ac yn dilyn ein cyngor." "Yn yr amgylchiadau rydym yn teimlo nad oedd dewis ond i dynnu ein cefnogaeth yn ôl, hyd nes yr ydych wedi cwblhau ei arolwg gwyddonol neu eich bod yn fodlon cwrdd â ni. 'Diffyg cwrteisi' "Rydym yn credu i chi ddangos diffyg parch am ein safbwynt drwy gymryd y penderfyniad hwn heb fod a'r cwrteisi i wrando ar ein barn." Cafodd y tri Bwrdd eu sefydlu yn 2008 er mwyn ymchwilio i ddulliau rhanbarthol wrth ymdrin â'r diciâu yng Nghymru. Cafodd penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw mlaen gyda'r cynllun difa ei feirniadu gan yr undebau amaethyddol, ond ei groesawu gan nifer o elusennau bywyd gwyll. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n bechod fod y Cadeiryddion yn teimlo ei fod yn rhaid tynnu eu cefnogaeth yn ôl cyn i'r arolwg gael ei gwblhau. "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi yn llwyr i gael gwared ar TB mewn gwartheg. Polisi clymblaid Plaid Cymru-Llafur oedd difa moch daear er mwyn ceisio delio ag achosion o'r diciâu mewn gwartheg. Ymhlith nifer o fesurau eraill y bwriad gwreiddiol oedd i ddifa moch daear yn bennaf yn ardal gogledd sir Benfro.
|