British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 29 Mehefin 2011, 10:05 GMT 11:05 UK
Comisiwn yn ymchwilio i heddlu

Leonard Hill
Daeth Heddlu Gwent o hyd i gorff Leonard Hill ddydd Sul

Bydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio Heddlu Gwent wedi i gorff dyn gael ei ganfod yn Rhymni.

Roedd Leonard Hill, 64 oed, wedi bod ar goll ers Mehefin 21. Fe gafodd Heddlu Gwent wybodaeth ei fod ar goll gan weithiwr cymdeithasol Mr Hill gan nad oedd wedi mynychu ei ganolfan ddydd lleol ers Mehefin 14.

Roedd Mr Hill wedi ei ddynodi'n berson o risg uchel oherwydd ei oed, ac roedd ei ddiflaniad yn groes i'w gymeriad.

Yn dilyn y wybodaeth gafodd yr heddlu fe aethon nhw i dy y drws nesa i gartre' Mr Hill a chanfod ei gorff.

Y gred ar hyn o bryd yw bod Mr Hill wedi marw ers pythefnos. Mae archwiliad post mortem wedi ei gynnal ar y corff.

Mae dyn 64 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio Mr Hill, ac fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Caerffili ddydd Mawrth.

Dywedodd Comisiynydd Cymru i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, Tom Davies:

"Hoffwn ddatgan fy nghydymdeimlad i deulu Mr Hill a'i gyfeillion am eu profedigaeth.

"Bydd ymchwiliad y Comisiwn yn canolbwyntio ar sut y deliodd Heddlu Gwent gyda'r amgylchiadau arweiniodd at ganfod corff Mr Hill."



HEFYD
Cyhuddo dyn o lofruddiaeth
27 Meh 11 |  Newyddion
Chwilio am ddyn 64 oed
24 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific