British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2011, 15:30 GMT 16:30 UK
Ceidwadwyr: Ysbrydoli aelodau

Andrew R T Davies a Nick Ramsey
Mae'r Ceidwadwyr yn mynnu bod y ras arweinyddol wedi ysgogi diddordeb yn y blaid.

Ar waethaf sïon mai nifer fechan o Geidwadwyr aeth i hystings y blaid yn y ras arweinyddol, mae'r Ceidwadwyr yn mynnu bod yr ymgyrch wedi tanio dychymyg y genedl.

Mae'r ras i ddod o hyd i olynydd i Nick Bourne wedi hen danio.

Collodd Mr Bourne ei sedd ar noson etholiad Cynulliad gorau'r Ceidwadwyr ers yr un cyntaf yn 1999.

Andrew R T Davies, AC Canol De Cymru a Nick Ramsay AC Mynwy yw'r ddau sydd yn y ras, y naill yn marchnata'i hun fel gŵr teulu a'r llall fel yr un i foderneiddio'r blaid.

Cododd cwestiynau ynglŷn â brwdfrydedd aelodau cyffredin yn dilyn Hystings Aberystwyth

Mae BBC Cymru yn deall fod ffigyrau'r gynulleidfa yn isel - "dwbl isel, os nad ffigyrau sengl."

'Ymateb da'

Ond mae Paul Davies AC, yr un sy'n gwarchod swydd yr arweinydd cyn i'r enillydd gael ei enwi, yn dweud bod yr ymateb i'r ymgyrch wedi bod yn dda o fewn ac oddi allan i'r blaid.

"Dw i'n meddwl ei fod e wedi cael ymateb da tu allan i'r blaid Geidwadol," meddai gan ddweud bod ei etholwyr ei hun yn crybwyll y mater gydag ef ar y stryd.

"Mae pobl ar draws Cymru wedi dangos diddordeb.

"Bydd pwy bynnag sy'n ennill y ras arweinyddol a gwaith i wneud o gyfathrebu a Chymru yn ogystal â dwyn y Llywodraeth yma i gyfrif."

Mae wythnos o hystings wedi eu cynnal ym mhum rhanbarth etholaethol Cymru.

"Mae diddordeb mawr gan yr aelodau yng nghystadleuaeth yr arweinyddiaeth, diddordeb mawr yn y cyfeiriad y dylai'r blaid fod yn ei gymryd," meddai Mr Davies.

'Dim gwahaniaeth barn'

Does dim dwyn perswâd ar y gwrthbleidiau eraill i leisio barn ar fanteision un ymgeisydd dros y llall.

"Mae'n ddigon i ddweud bod yna shifft wedi bod yn y ffordd mae'r Ceidwadwyr yn ymhél â datganoli," meddai Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru.

"Dydw i ddim yn credu bod gwahaniaeth barn rhwng y ddau ymgeisydd.

"Beth fydd yn y ddiddorol, dw i'n gwrando'n ofalus iawn beth mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud fan hyn achos mae'n rhoi achlust o beth sy'n cael ei ddweud mewn trafodaeth â San Steffan."

Fel aelod o blaid sydd mewn clymblaid â'r Ceidwadwyr yn San Steffan, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn dweud y bydd yn gweithio â phwy bynnag fydd yn ennill.

"Byddai'n anghywir i fi ddatgan ffefryn," meddai.

"Yr hyn sy'n bwysig yw bod gennym berthynas broffesiynol fan hyn i helpu'n gilydd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a hefyd i weithio gyda'n gilydd i sicrhau pethau da i Gymru gan Lywodraeth San Steffan."

Fe fydd y Ceidwadwyr yn cyhoeddi enw'r arweinydd newydd ar Orffennaf 14.



HEFYD
Dadl dros bwy all ennill pleidleisiau
17 Meh 11 |  Newyddion
Ramsay am fod yn arweinydd
15 Mai 11 |  Newyddion
Ceidwadwyr i ddewis olynydd
09 Mai 11 |  Newyddion
Penodi arweinydd dros dro
07 Mai 11 |  Newyddion
Arweinydd plaid yn colli ei sedd
06 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific