Mae Plaid Cymru'n beirniadu record Llywodraeth Cymru
|
Galwodd arweinydd Plaid Cymru ar i Lywodraeth Lafur Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol yn yr hyn mae'n gofyn amdano ym mhecyn ariannol Cymru. Wythnos diwethaf cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ei fod am geisio pwerau benthyg a diwygio fformiwla gyllido Cymru gan San Steffan, yn ogystal ag ystyried pwerau trethu mewn meysydd fel trethi awyr. Dydy Ieuan Wyn Jones o Blaid Cymru, cyn ddirprwy Mr Jones yn Llywodraeth Cymru'n Un, ddim yn meddwl bod hyn yn ddigon da o gymharu â'r pecyn ariannol fydd gan yr Alban. 1.5% yng Nghymru Dywedodd: "Rydym ni'n gweld yr Alban yn rasio i gael setliad ariannol - mae pwerau'r Alban yn cynyddu o ganlyniad i lwyddiant yr SNP." Roedd yn cyfeirio at yr amrywiol bwerau trethu mae'r Alban yn gobeithio'u cael yn Neddf yr Alban - pwerau benthyg, pwerau dros ryddhau bondiau, mwy o bwerau dros dreth incwm ac i wneud gwaith adeiladu. "Cyfanswm gwerth setliad ariannol yr Alban yw £12 biliwn," ychwanegodd. "Mae hynny'n 40% o'r gyllideb sydd ganddyn nhw reolaeth drosto fo, tra bod Carwyn Jones yn gofyn am reolaeth dros lai na 1.5% o gyllideb Cymru. Cyhuddodd Jocelyn Davies o Blaid Cymru'r Llywodraeth o fethu â gweithredu gan ddweud nad yw unrhyw drafodaethau fu yn San Steffan wedi dwyn ffrwyth. 'amheus' "Mae ganddyn nhw uned weithredu sy'n gweithredu dim, pwerau deddfu heb ddeddfwriaeth a negodi rhynglywodraethol gyda dim negodi," meddai. Wrth ymateb i gwestiynau gan Ieuan Wyn Jones yn y siambr yn hwyrach, cadarnhaodd Carwyn Jones na fyddai'n gofyn am bwerau trethi - oni bai ei bod yn dod yn rhan o "becyn ariannol cynhwysfawr." "Barn y Llywodraeth yw ddim i edrych am bwerau dros dreth incwm, rwy'n amheus am bwere trethi corfforaethol ond os ydy e'n cael ei gynnig i Ogledd Iwerddon, byddwn ni'n gorfod ystyried hynny. "Byddwn ni'n ddigon parod i gymeryd y pwerau hynny fel rhan o becyn cynhwysfawr."
|