Fe gaeodd yr hufenfa yn 1994
|
Mae cynlluniau ar y gweill i ailagor rhan o Hufenfa Hendy Gwyn ar Daf gafodd ei chau yn 1994. Bwriad cwmni The Proper Welsh Milk Company yw codi uned brosesu ar gost o £1.4 miliwn. Dywedodd y cwmni mai'r gobaith yw cyflogi hyd at 60 o bobl o fewn pum mlynedd. Mae disgwyl i i Bwyllgor Cynllunio Sir Gâr drafod y cais ym mis Awst. Ar hyn o bryd, meddai'r cwmni, mae 90% o laeth de Cymru yn cael ei brosesu yn Lloegr cyn cael werthu yng Nghymru. Byddai'r safle yn cael ei gyflenwi gan ffermwyr llaeth Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. 'Cysylltiadau' Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae'r safle'n un gwych o ran cysylltiadau ffyrdd. "Rydyn ni'n rhagweld taw un tancer 14,000 litr fydd yn gadael y safle bob dau ddiwrnod. "Fe fyddai hynny'n cynyddu i bum tancer a 10 lori'r diwrnod ymhen pum mlynedd." Y gred yw bod archfarchnadoedd Tesco a Morrison wedi mynegi diddordeb mewn gwerthu'r cynnyrch. Mae'r cwmni hefyd wedi trafod â byrddau iechyd lleol sydd ar hyn o bryd yn prynu llaeth o ffatrïoedd yn Southampton a Llundain. Roedd yr hen hufenfa ar safle 19 erw ac ar un adeg roedd 1,400 o ffermwyr llaeth y gorllewin yn cyflenwi'r safle.
|