British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2011, 08:25 GMT 09:25 UK
Gwylwyr y Glannau: Deiseb

Syr Alan Massey yn trafod gyda phrotestwyr
Bu protestwyr yn Aberdaugleddau yn trafod gyda Syr Alan Massey o'r gwasanaeth Gwylwyr y Glannau.

Bydd menyw a hwyliodd o amgylch y byd - Rosie Swale Pope - ymhlith y rhai fydd yn cyflwyno deiseb yn Downing Street i brotestio yn erbyn cau gorsaf Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau.

Mae llywodraeth y DU yn adolygu cynlluniau i gau dros hanner gorsafoedd gwylwyr y glannau, a chwtogi nifer y gorsafoedd 24 awr o 18 i 3.

O dan y cynllun gwreiddiol, byddai gorsafoedd Aberdaugleddau a Chaergybi yn cau.

Mae gweinidogion yn mynnu na fydd diogelwch yn cael ei beryglu.

Mae 19,000 o enwau ar y ddeiseb.

Bu protestiadau yn y ddau le gan rai sy'n honni y byddai bywydau mewn perygl petai gwybodaeth leol yn cael ei cholli o dan y drefn newydd.

'Torri costau'

Sut mae rhywun yn Aberdeen neu Southampton yn mynd i wybod am ryw gildraeth yng Nghymru neu'r iaith Gymraeg
Rosi Swale Pope

Ms Swale Pope, 64 oed o Sir Benfro, oedd y person cyntaf i hwylio rownd yr Horn ar gatamarán yn 1971.

Cyn cyflwyno'r ddeiseb dywedodd:

"Mae hi 100% yn anghywir i gwtogi gwasanaeth gwylwyr y glannau drwy honni ei wella. Mae unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am y môr yn gwybod hynny.

"Torri costau yw hyn i gyd. Sut mae rhywun yn Aberdeen neu Southampton yn mynd i wybod am ryw gildraeth yng Nghymru neu'r iaith Gymraeg?

"Does dim modd gwneud hynny o bellter.

"Rwy'n teimlo'n gryf iawn am hyn. Mae'n mynd i gostio bywydau ac yn mynd i gael effaith yn hwyr neu'n hwyrach ar ein hamgylchedd naturiol."

Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Philip Hammond, yn adolygu'r cynlluniau ac fe fydd yn cyhoeddi argymhellion yn ddiweddarach yn yr haf.

Ond mae wedi mynnu nad yw'r cynlluniau gwreiddiol yn peryglu diogelwch, ac yn cynnwys mwy o adnoddau ar gyfer gwasanaethau achub rheng flaen.

Dywedodd y byddai'r cynlluniau yn gwella technoleg gwybodaeth, ac yn creu gwell cyfleoedd cyflogaeth i staff.



HEFYD
Gwylwyr y Glannau: Ailfeddwl?
23 Meh 11 |  Newyddion
Ail-ystyried cau gorsafoedd
19 Mai 11 |  Newyddion
Rali gorsaf gwylwyr y glannau
30 Ebr 11 |  Newyddion
Gwylwyr y Glannau: Rali arall
19 Maw 11 |  Newyddion
Trafod Gwylwyr y Glannau
04 Maw 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific