British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2011, 09:59 GMT 10:59 UK
Dathlu canllawiau i wella bywyd pobl byddar a dall

Cynni cymorth i rywun sy'n fyddar a dall
Mae cymorth ar gael i'r rhai sy'n fyddar a dall

Mae elusen Sense Cymru yn dathlu 10 mlynedd ers cael canllawiau ffurfiol ar gyfer darparu cymorth cymdeithasol i bobl fyddar a dall.

Mae yna dros 7,000 o blant ac oedolion yng Nghymru gyda nam golwg a thrafferthion clywed.

Ynghyd â'r rhai sydd wedi geni gyda'r diffyg synhwyrau, mae'r nifer sy'n cael trafferthion wrth heneiddio yn cynyddu.

Fel rhan o'r dathliadau fe fydd Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Gwenda Thomas, yn ymuno gyda 20 o ACau eraill i gynnal y dathliad.

"Gan fod poblogaeth Cymru yn heneiddio, rhaid i ni ddisgwyl rhagor o bobl gyda'r trafferthion yma," meddai Wayne Lewis, pennaeth gwasanaethau Sense Cymru.

"Rydym felly am gynnal y dathliadau yma i ddiolch bod y canllawiau yma wedi ei basio a bod awdurdodau lleol yn ei ddilyn.

Cymorth

"Mae rhai yn cynnig gwasanaeth da iawn, er nid yw rhai eraill mor dda.

"Nid yw'r gwasanaeth ledled Cymru yr un fath i bawb."

Eglurodd Mr Lewis mai dim ond cymorth ar lefel isel y mae llawer o bobl gyda nam ar y ddau synnwyr ei angen.

Mae hyn yn cynnwys cymorth i ddarllen llythyrau, mynd i siopa ac ymweld â'r doctor.

Mae eraill, sydd erioed wedi gallu gweld na chlywed, angen cynorthwy-ydd i ddehongli'r byd o'u cwmpas.

Yn ôl y canllawiau mae angen i awdurdodau lleol Cymru gadw cofnod o bobl gyda nam golwg a chlyw yn yr ardal a sicrhau bod pobl gyda'r hyfforddiant cywir yn rhedeg asesiadau ac yn cynnig y gwasanaethau priodol.

Rhaid hefyd cynnig gwybodaeth mewn ffordd hygyrch a sicrhau bod rheolwr yn gyfrifol am wasanaethau dall/byddar yn uniongyrchol.

Cychwynnodd Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Ddall ac yn Fyddar ddydd Llun Mehefin 27.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific