British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 27 Mehefin 2011, 11:09 GMT 12:09 UK
Ceffylau'n crwydro ar ffordd fawr

Ceffylau yn Llanelli
Dywed yr heddlu fod ceffylau yn crwydro ar y ffordd fawr

Mae yna rybudd i yrwyr gymryd gofal ar yr A484 yn ardal Llanelli oherwydd bod yna geffylau ar y ffordd.

Dywed yr heddlu fod yr anifeiliaid wedi crwydro i'r ffordd yn ardal Pont Casllwchwr a chylchdro Berwick.

Ddechrau'r flwyddyn bu'n rhaid cau'r ffordd oherwydd bod hyd at 70 o geffylau yn crwydro'r ardal.

Ar y pryd dywedodd y Cyngor sir fod yr anifeiliaid yn broblem ddifrifol yn yr ardal.

Yn ogystal â pheryglu gyrwyr, dywed y cyngor fod y ceffylau wedi achosi difrod i barciau, meysydd pêl-droed a chwrs golff Machynys.

Ceffylau  (Llun: Elin Wyn)
Cafodd yr heddlu eu galw i barc yng nghanol Caerdydd

Yn y cyfamser, cafodd yr heddlu yng Nghaerdydd eu galw i Barc Victoria yng nghanol y ddinas ar ôl i geffylau gwyllt grwydro yno.

Cafodd y ceffylau eu corlannu mewn cyrtiau tenis.

Dywed yr heddlu iddynt gysylltu â'r cyngor sir ac i'r ceffylau gael eu cludo o'r parc.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific