British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 26 Mehefin 2011, 14:36 GMT 15:36 UK
200,000 i wella prif gylch Sioe Frenhinol Cymru

Ceffylau yn y Sioe Fawr
Fe wnaeth cyfanswm o 230,766 o bobl ymweld 'r sioe y llynedd

Dywed cyfarwyddwr er anrhydedd Sioe Frenhinol Cymru y dylai gwelliannau i wyneb y prif gylch arddangos olygu na fydd y mwd difrifol gafodd ei achosi gan dywydd drwg y llynedd ynghyd ag yn 2007 a 2009 ddigwydd eto.

Dywedodd Harry Fetherstonhaugh wrth Gyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas Amaethyddol Gymreig fod gwelliannau gwerth £200,000 yn golygu y bydd dŵr yn draenio o'r cylch yn llawer cyflymach.

Fe wnaeth cyfanswm o 230,766 o bobl ymweld â'r sioe yn Llanelwedd, Powys y llynedd, sef y bedwaredd dyrfa fwyaf yn hanes y sioe.

Un o uchafbwyntiau'r sioe y llynedd oedd agor Neuadd Fwyd newydd ar gost o £1.6 miliwn.

Dywed y trefnwyr bydd modd arddangos dwywaith gymaint o gynnyrch yn yr adeilad newydd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific