British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 27 Mehefin 2011, 07:04 GMT 08:04 UK
Ymgynghoriad ysgolion Sir Ddinbych: Cyfarfod

Plant ar fuarth ysgol
Penderfynwyd ym mis Tachwedd 2009 fod angen edrych ar addysg gynradd yn ardal Edeirnion

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Lun fel rhan o ymgynghoriad ar gynlluniau i adolygu trefniadau addysg gynradd yn rhan o Sir Ddinbych.

Dyfodol tair o ysgolion cynradd yn ardal Edeirnion sydd dan sylw.

Mae 'na wrthwynebiad wedi bod i rannau o'r cynllun ad-drefnu.

Ym mis Mai, er enghraifft, fe gynhaliodd rhieni Ysgol Llandrillo brotest wrth i gynghorwyr Sir Ddinbych drafod cynnig i gau'r ysgol gynradd.

Roedden nhw'n dadlau y dylid cadw'r ysgol ar agor gan ei fod yn ganolbwynt i'r pentre'.

Bydd y cyfarfod yn Ysgol Maes Hyfryd, Corwen yn dechrau am 6:30pm.

CYNLLUN 1

O dan y cynllun cynta', byddai ysgol ardal yn cael ei sefydlu ar gyfer Cynwyd a Llandrillo.

Byddai hynny'n golygu cau ysgolion Llandrillo a Maes Hyfryd ar ddiwedd mis Awst 2012.

Byddai'r ysgol ardal newydd yn agor ym mis Medi 2012, gan ddefnyddio safleoedd presennol y ddwy ysgol i ddechrau, cyn symud i un safle yng Nghynwyd petai'r arian ar gael.

CYNLLUN 2

Byddai'r ail gynllun yn golygu y byddai Ysgol Glyndyfrdwy yn cau ei drysau ar 31 Awst 2012, a disgyblion yn cael eu symud i Ysgol Y Gwernant, Llangollen, petai rhieni yn ffafrio hynny.

Mae cyfarfod ymgynghorol cyhoeddus i drafod yr opsiwn hwn wedi'i drefnu ar y dyddiad canlynol:

• Dydd Mercher, 29 Mehefin, 6:30pm - Neuadd Gymunedol Glyndyfrdwy

Bydd y cyfnod ymgynghorol ar gyfer y ddau gynllun yn dod i ben ar 20 Gorffennaf.

Ffederaleiddio

Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd wedi argymell ffederaleiddio Ysgol Betws Gwerful Goch ac Ysgol Bro Elwern, yn ogystal ag Ysgol Caer Drewyn ac Ysgol Carrog.

Fel rhan o'r ymgynghoriad bydd y cyngor yn trafod gyda disgyblion, rhieni, llywodraethwyr, staff, cymunedau lleol, ysgolion cyfagos, yn ogystal â gydag awdurdodau a chynghorwyr lleol, Aelodau Cynulliad a Seneddol yr etholaethau, a gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben ar 20 Gorffennaf, bydd cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn trafod y casgliadau ym mis Medi, cyn penderfynu a fyddan nhw'n bwrw 'mlaen â'r cynlluniau.



HEFYD
Dechrau ymgynghoriad ysgolion cynradd
07 Meh 11 |  Newyddion
Rhieni am gadw ysgol gynradd
24 Mai 11 |  Newyddion
Caniatād i adolygu ysgolion cynradd
26 Hyd 10 |  Newyddion
Nifer ysgolion cynradd i ostwng?
26 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific