British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 24 Mehefin 2011, 10:57 GMT 11:57 UK
Chwilio am ddyn 64 oed

Leonard Hill
Mae'r heddlu yn awyddus i gael gwybod lle mae Leonard Hill

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i ganfod dyn 64 oed sydd ddim wedi ei weld ers dros wythnos.

Cafodd Leonard Hill ei weld ddiwethaf ddydd Mawrth Mehefin 14 yn ardal Stryd Fawr Rhymni.

Mae Mr Hill yn aml yn ymweld â siopau betio yn ardal Rhymni a Thredegar.

Cafodd ei ddisgrifio fel dyn gwyn chwe throedfedd o daldra ac o faint canolig.

Dywedodd yr heddlu fod ganddo wallt hir llwyd wedi ei glymu yn ôl ac weithiau mae ganddo farf.

Os oes unrhyw un yn gwybod unrhyw beth am Mr Hill fe ddylen nhw gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 101.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific