Fe ddaeth yn amlwg fod 17 o Aelodau Cynulliad yn cyflogi aelodau o'u teuluoedd cyn yr etholiad ym mis Mai. Mae ateb i gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wedi dangos bod ACau o'r pedair prif blaid yn cyflogi perthnasau. Mae gan Aelodau hawl i gyflogi perthnasau, ond mae'r cyfweliadau terfynol yn cael eu cynnal gan swyddogion personél y Cynulliad. Dywed y grŵp ymgyrchu Cyngres y Trethdalwyr (Taxpayers Alliance) y byddai pobl yn amheus o wleidyddion yn cyflogi aelodau o'u teulu, a bod rhaid i'r sustem fod "uwchlaw cerydd." Yn 2009, fe ddywedodd adolygiad gan banel annibynnol y byddai aelodau o'r teulu yn cael parhau i weithio i ACau, ond ychwanegodd "y dylai'r arfer ddod i ben ymhen amser er lles hyder y cyhoedd a'r defnydd gorau o arian cyhoeddus." 'Blas cas' Fe soniodd cyfarwyddwr Cyngres y Trethdalwyr, Matthew Sinclair, am achos y cyn aelod seneddol Derek Conway a fu'n talu cyflog i'w fab Freddie o'i dreuliau seneddol tra 'roedd yntau yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Newcastle. Dywedodd Mr Sinclair: "Mae hynny wedi gadael blas cas i'r cyhoedd ac yn ei gwneud hi'n anodd i ACau gyfiawnhau cyflogi aelodau o'u teulu. "Rhaid i ACau ddysgu gwersi o'r sgandal treuliau yn San Steffan." Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae cyflogi staff cefnogol yn fater i aelodau unigol. "Mae Comisiwn y Cynulliad wedi gosod rheolau clir ar gyflogi staff y mae'n rhaid i bob aelod eu dilyn." 'Cofnod cyhoeddus' Yr unig Aelod Cynulliad i gyflogi dau aelod o'r teulu oedd AC Llafur Ogwr, Janice Gregory - ei merch Kirsty fel swyddog cyfathrebu a'i gwr Michael fel gweinyddwr ac ymchwilydd. Dywedodd llefarydd ar ran grŵp Llafur y Cynulliad: "Mae unrhyw benodiad o aelod o'r teulu gan Aelod Cynulliad yn fater o gofnod cyhoeddus, ac i'w weld ar y cofnod diddordebau. "Mae'r grŵp Llafur wedi ymrwymo i dryloywder, ac fe fydd unrhyw benodiadau staff yn y dyfodol yn ystyried canllawiau newydd osodwyd gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol." Yr unig aelod presennol o Blaid Cymru i gyflogi perthynas yw Jocelyn Davies - dechreuodd ei gwr weithio iddi ym mis Mai 2007. Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Nid yw'r aelod o'r teulu sy'n gyflogedig yn benodiad newydd, ac fe fu'n fater o gofnod cyhoeddus ers tro." Ychwanegodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cefnogi'r rheolau newydd sydd wedi eu rhoi mewn lle, ac rydym yn bwriadu cadw atyn nhw."
|