Fe fydd gwrthwynebwyr yn cynnal protest yn Llanelli
|
Mae 'na bryder am sefydlu hostel i gyn-droseddwyr yng nghanol tref Llanelli. Dywed pobl sy'n byw yn Heol y Frenhines Fictoria eu bod yn poeni am y posibilrwydd. Eisoes maen nhw wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus lle'r oedd dros 200 o bobl yn bresennol. Mae disgwyl y bydd protest yn cael ei chynnal dros y penwythnos. Yn ôl protestwyr, gallai hyd at 18 o gyn-garcharorion gael lloches yn yr adeilad sef hen gartref nyrsio Santes Elli. Mae Heol y Frenhines Fictoria yn stryd brysur yng nghanol y dref. Lleisio barn Gerllaw mae Theatr Elli yn ogystal â meithrinfa a chanolfannau i'r henoed a nifer fawr o gartrefi. Mae'r hen gartref nyrsio wedi bod yn wag am oleia blwyddyn.
Elusen Caer Las Cymru sydd wedi mynegi diddordeb yn y safle. Dydi hynny ddim wrth fodd trigolion yr ardal. Roedd 200 o bobl yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus yn ystod yr wythnos er mwyn lleisio'u pryderon. Dywedodd y cynghorydd lleol John Jones, nad yw'r ardal yn addas ar gyfer cynllun o'r fath. "Mae pobl y stryd yn pryderu llawer iawn. Dwi ddim yn meddwl y dylai fod yna. "Mae 'na ddwy feithrinfa leol ac mae 'na blant yn mynd i'r ysgol leol. "Dywedodd y rheini wrtha i na fyddan nhw'n mynd a'r plant i'r feithrinfa petai'r hostel yn cael ei sefydlu ac mae 'na ddau gartref gofal lleol. "Mae rhan fwyf o bobl y stryd yn hen. "Fe fyddwn ni'n cynnal protest ar y stryd ddydd Sul i dynnu sylw at y gwrthwynebiad." 'Arfaethedig' Dywedodd llefarydd ar ran sefydliad Caer Las nad yw Santes Elli yn lleoliad pendant ar gyfer y prosiect hwn gan eu bod yn ystyried nifer o leoliadau ar hyn o bryd. "Unwaith y bydd y lleoliad terfynol wedi ei nodi, fe fyddwn ni'n ymgynghori'n helaeth â'r gymuned leol, ac yn gwrando ar eu pryderon. "Mae'r prosiect arfaethedig wedi ei glustnodi yn flaenoriaeth strategol gan yr Awdurdod Lleol a'r Gwasanaeth Prawf, a allai helpu pobl sy'n ceisio rhoi trefn ar eu bywydau." Ond yn ôl y cynghorydd lleol, Roger Price, does dim croeso yng nghanol Llanelli i gynllun o'r fath "Mae wedi bod yn sydyn iawn. "Dim ond yn ddiweddar dwi wedi clywed amdano, er fy mod yn gynghorydd. "Rydym eisiau i bobl sylweddoli pa mor gryf ydi'r teimladau." Bydd trigolion yr ardal yn ymgynnull ar Heol y Frenhines Fictoria ddydd Sul er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i'r cynllun.
|