British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 23 Mehefin 2011, 13:52 GMT 14:52 UK
Llys yn clywed am fygythiad o ladd

Rebecca Aylward
Cafodd corff Rebecca Aylward ei ddarganfod mewn coedwig

Clywodd llys fod bachgen 16 oed sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gyn gariad wedi cellwair wrth ffrindiau "oni fyddai'n haws pe na bai hi ddim yma."

Dywedodd un o ffrindiau'r bachgen wrth Lys y Goron Abertawe fod y diffynnydd hefyd wedi dweud: "Rwy' am ei lladd hi. Bydd hynny ddim yn anodd, bydd e'n eitha' rhwydd."

Cafodd Rebecca Aylward, 15 oed o Faesteg, ei churo i farwolaeth ac fe gafwyd hyd i'w chorff mewn coedwig ym mis Hydref.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd ffrind y diffynnydd: "Doeddwn i ddim yn ei gymryd o ddifri ... ond nawr mae'n ymddangos bod yna 'chydig o fwriad sinistr yna. "

Mae'r bachgen 16 oed, na ellir ei enwi oherwydd rhesymau cyfreithiol, yn gwadu llofruddiaeth.

Teimladau cryf

Clywodd y llys fod Rebecca wedi ei churo gyda charreg ar ei phen.

Wrth roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo dywedodd ffrind 16 oed y bachgen ei fod o yn adnabod Rebecca ers yr ysgol gynradd.

Dywedodd fod gan y diffynnydd deimladau cryf am y ferch ysgol.

"Doedd o ddim yn gyfrinach ei fod o yn ei chashau hi ac wedi gwneud ers i berthynas y ddau ddod i ben.

"Ar sawl achlysur clywais e'n dweud y byddai'n ei lladd.

"Byddai'n egluro sut y byddai'n gwneud ac na fyddai'n cael ei ddal."

Dywedodd mai'r tro olaf i'r diffynnydd 'gellwair' am ei lladd oedd ym Medi 2010 - wythnosau cyn iddi gael ei lladd.

Yn ystod ei dystiolaeth dywedodd y ffrind fod y diffynnydd wedi dweud mai ef wnaeth orffen y berthynas.

Brecwast

Roedd yn honni fod Rebecca am fod yn feichiog, fel modd o ddiogelu'r berthynas.

Honiad y diffynnydd yw mai ffrind arall wnaeth ladd Rebecca.

Clywodd y rheithgor fod y diffynnydd wedi anfon neges destun at un o'i ffrindiau.

"Be fyddi di'n wneud pe bai fi yn ei lladd hi?"

Yr ateb gafodd: "o, mi fyddai'n prynu brecwast i ti."

Clywodd y llys i'r diffynnydd roi cadarnhad i'w ffrind dau ddiwrnod cyn i Rebecca gael ei lladd - y byddai'n dod am frecwast.

Ychwanegodd: "Paid â dweud dim, ond ma' arnat ti frecwast i mi."

Atebodd ei ffrind: "Testun orau i mi ei dderbyn. Ond o ddifri os dio'n wir dwi'n hapus i dalu am frecwast."

Ychwanegodd y diffynnydd: "Dwi'n gobeithio erbyn hynny y bydd popeth ar ben."

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Merch wedi ei lladd charreg
22 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific