Cafodd yr adroddiad ei drafod ddydd Iau
|
Mae Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd wedi cefnogi argymhellion i adrefnu addysg yn ardal Dolgellau yn ddiwrthwynebiad. Bydd yr argymhellion nawr yn derbyn ystyriaeth Bwrdd y Cyngor a'r Cyngor llawn yn ystod mis Gorffennaf. Yr argymhelliad ar gyfer tref Dolgellau yw cau Ysgol Gynradd Dolgellau ac Ysgol Uwchradd Y Gader gan sefydlu ysgol gydol oes aml-safle ar gyfer disgyblion 3 i 16 oed. Yr argymhelliad ar gyfer ochr ddwyreiniol yr ardal yw sefydlu ysgol ardal aml-safle, gydag un safle'r ysgol ar leoliad presennol Ysgol Dinas Mawddwy a'r safle arall unai ar leoliad presennol Ysgol Brithdir neu Ysgol Ieuan Gwynedd, Rhydymain. Byddai yn golygu y byddai'r naill leoliad neu'r llall yn cau. Fel rhan o'r argymhelliad hwn bydd ysgol Llanfachreth yn cau, a'r ddarpariaeth yn cael ei gynnig yn yr Ysgol Ardal. Mae trafodaeth ynglŷn â gorllewin y dalgylch yn parhau. Mae'r adroddiad gan Iwan T. Jones, cyfarwyddwr corfforaethol y cyngor, yn dweud bod "sefyllfa fregus iawn yn yr ochr ddwyreiniol yn golygu bod rhaid blaenoriaethu ymateb yn yr ardal honno ar fyrder".
|