British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 23 Mehefin 2011, 14:20 GMT 15:20 UK
S4C yn hysbysebu am brif weithredwr

Pencadlys S4C yng Nghaerdydd
Bydd y cyflog yn "gymesur swyddogaeth a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus"

Mae S4C wedi hysbysebu am swydd prif weithredwr newydd y sianel.

Yn ôl yr hysbyseb a gyhoeddwyd ddydd Iau: "Mae Awdurdod S4C yn chwilio am Brif Weithredwr i arwain y sianel drwy heriau a chyfleoedd y dyfodol".

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus "yn dod â phrofiad o gyflwyno newidiadau cymhleth, ymgysylltu å rhanddeiliaid, a gweithredu mewn swydd amlwg trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg".

Bydd y cyflog yn "gymesur â swyddogaeth a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus".

Y dyddiad cau yw 5pm ddydd Llun, Gorffennaf 18.

Ers mis Awst y llynedd, Arwel Ellis Owen sydd wedi bod yn arwain y sianel fel Prif Weithredwr Dros Dro ar ôl ymadawiad Iona Jones.

Yn gynharach y mis hwn, daeth cadarnhad gan Ysgrifennydd Diwylliant y Llywodraeth yn San Steffan fod Huw Jones wedi ei benodi yn gadeirydd S4C.



HEFYD
S4C: Diswyddiadau gwirfoddol
22 Meh 11 |  Newyddion
S4C: Galw am ddiswyddiadau
12 Mai 11 |  Newyddion
S4C a BBC i gyd-weithio
14 Hyd 10 |  Newyddion
S4C: Amheuaeth am doriad o 2m
21 Medi 10 |  Newyddion
Cadarnhau Huw Jones fel cadeirydd
06 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific