British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 23 Mehefin 2011, 12:21 GMT 13:21 UK
Wylfa yn un o wyth safle

Wylfa
Mae tir eisoes wedi cael ei brynu gerllaw yr atomfa bresennol ar gyfer gosaf niwcliar newydd yn y Wylfa.

Daeth cadarnhad fod Wylfa ar Ynys Môn yn un o wyth safle sy'n cael eu hystyried gan lywodraeth Prydain fel rhai addas ar gyfer adeiladu atomfeydd newydd.

Mae'r llywodraeth yn awyddus i'r pwerdai niwclear fod yn barod erbyn 2025.

Roedd cadarnhad yn y cyhoeddiad ar bolisi y glymblaid ar ynni bod Wylfa yn dal i gael ei ystyried yn safle ar gyfer gorsaf niwclear newydd.

Dywedodd Alan Raymant, prif swyddog gweithredol Horizon, y cwmni ynni sy'n gobeithio datblygu cenhedlaeth newydd o orsafoedd pŵer niwclear: "Mae cyhoeddi'r datganiadau hyn yn cynrychioli cam arall ymlaen tuag at ddarparu datblygiadau niwclear newydd yn y DU.

"Mae Wylfa yn safle gwych ar gyfer adeiladu, a gallai'r datblygiad arfaethedig olygu effaith gadarnhaol tymor hir yng Ngogledd Cymru yn cynnwys dod â channoedd o swyddi a miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i'r ardal.

"Mae cymeradwyo Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i ni symud ymlaen i ddatblygu ein cais cynllunio."

Roedd Wylfa ar restr o 11 a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2009 gan y llywodraeth Lafur ar y pryd.

Daeth ymgynghoriad ar y rhestr honno i ben, ac fe ddaeth cadarnhad gan lywodraeth Prydain ddydd Iau bod yr Wylfa yn parhau ar y rhestr.

Y tri enw i ddiflannu oddi ar y rhestr yw Dungeness yng Nghaint, a Braystones a Kirkstanton - y ddau yn sir Cumbria - oherwydd yr effaith y gallai'r tri eu cael ar safleoedd sy'n bwysig i fywyd gwyllt neu ar Barc Cenedlaethol.

Y saith safle sy'n cael eu hystyried gan lywodraeth Prydain yw :-

  • Bradwell, Essex;
  • Hartlepool;
  • Heysham, Sir Gaerhirfryn;
  • Hinkley Point, Gwlad yr Haf;
  • Oldbury, Sir De Caerloyw;
  • Sellafield, Cumbria;
  • Sizewell, Suffolk.


HEFYD
Cyflymu dadgomisiynu Trawsfynydd
01 Ebr 11 |  Newyddion
Trafod diogelwch gorsafoedd niwclear
23 Maw 11 |  Newyddion
Ymestyn oes Wylfa tan 2012?
13 Hyd 10 |  Newyddion
Atomfa i'r Wylfa erbyn 2020?
30 Maw 10 |  Newyddion
Wylfa: Dau gwmni yn prynu tir
29 Ebr 09 |  Newyddion
Wylfa: Un o 11 'safle addas'
15 Ebr 09 |  Newyddion
Yr Wylfa: Cynlluniau newydd
17 Hyd 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific