Mae pryder y bydd saith swyddfa yn cau yng Nghymru
|
Mae 'na ansicrwydd ynglŷn â 1,200 o swyddi yn swyddfeydd Cyllid a Thollau Cymru. Daw'r pryderon ar ôl adroddiadau mai dim ond un o'r wyth swyddfa sy'n sicr o gael ei chadw'n agored tan y flwyddyn 2020. Mae undeb gweision sifil y PCS yn dweud eu bod yn bryderus o weld dogfen gyfrinachol sy'n awgrymu cau swyddfeydd. Mewn datganiad, dwedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Cyllid a Thollau nad oes cynlluniau newydd i gau na symud swyddfeydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r ddogfen gyfrinachol yn nodi 16 lleoliad a fydd yn dal ar agor tan 2020, Caerdydd yw'r unig leoliad yng Nghymru. Fe fydd swyddogion yr undeb yn cyfarfod staff y saith swyddfa arall dros y dyddiau nesaf. Symudiadau Mae 'na swyddfeydd ym Mhorthmadog, Prestatyn, Wrecsam, Bae Colwyn, Merthyr Tudful, Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd. Yn y swyddfa ym Mhorthmadog y mae'r ganolfan alw Cymraeg. Honnir bod bron i 3,500 o bobl yn cael eu cyflogi gan y Swyddfa Cyllid a Thollau - 2,500 yng Nghaerdydd. Cafodd cynlluniau eu cyhoeddi yn 2008 i gau naw swyddfa yng Nghymru, gyda'r cyhoeddiad yn effeithio ar 370 o bobl. "Does 'na ddim cyhoeddiad newydd ar gau swyddfeydd neu symudiadau o fewn Cymru ar hyn o bryd," meddai llefarydd ar ran Y Swyddfa Cyllid a Thollau. "Dydi'r ffigyrau yma ddim yn rhai newydd ac maen nhw'n rhan o raglen ehangach o wella effeithiolrwydd y gwasanaeth." Ar draws y DU mae tua 20,000 o swyddi wedi eu colli dros y blynyddoedd diwethaf fel rhan o doriadau'r Llywodraeth ac mae 200 o swyddfeydd wedi cau. Erbyn 2015 mae'r corff yn gobeithio cwtogi 12,000 o swyddi fel rhan o raglen bresennol y llywodraeth i wneud arbedion. Yn ôl y rhestr, y swyddfeydd canlynol fydd yn dal ar agor tan o leiaf 2020: Belfast, Birmingham, Bryste, Caerdydd, Caeredin, Glasgow, Leeds, Lerpwl, Llundain, Manceinion, Newcastle, Nottingham, Preston, Solent (Portsmouth/Southampton), Southend-on-Sea a Telford. Mae'n nodi bod tua 80% o staff yr adran yn gweithio yn y swyddfeydd yma.
|