British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 23 Mehefin 2011, 06:41 GMT 07:41 UK
Cyfleusterau newydd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama

Golwg ar atyniadau newydd y coleg

Fe fydd adeilad newydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd yn agor yn swyddogol.

Mae'r datblygiad gerth £22.5 miliwn yn cynnwys dwy neuadd berfformio newydd.

Fe fydd y diwrnod agoriadol ddydd Iau yn deyrnged i Richard Burton ac fe fydd 'na berfformiad o ddrama Dylan Thomas, Under Milk Wood.

Mae'r datblygiad ar dir Castell Caerdydd yn dod a holl waith y coleg o dan yr un to.

"Am y tro cyntaf fe fydd y myfyrwyr i gyd yn astudio ac yn hyfforddi o dan un tro, yn hytrach na rhedeg i lefydd eraill yng Nghaerdydd ," meddai Matthew Talfan, pennaeth materion allanol y Coleg.

"Mae'n gam pwysig iawn ond hefyd mae cael cyfleusterau fel yma yn bwysig iawn.

"Mae 'na fwy o amrywiaeth o gyfleusterau, meddwl bod yr hyfforddiant yn fyw eang ac yn fwy trylwyr ac mae hynny bwysig iddyn nhw ddatblygu eu gyrfaoedd."

Cofio Burton

Yn ystod y dydd fe fydd merch Richard Burton, Kate, yn dadorchuddio penddelw efydd i'w thad.

Mae un o'r ddwy neuadd berfformio newydd, theatr 160 sedd, wedi cael ei henwi ar ôl Burton.

Cafodd enw'r theatrau ei gyhoeddi yn ystod cinio arbennig ym mis Ebrill 2010 ym Mhalas Buckingham i ddathlu pen-blwydd y coleg yn 60 oed.

Richard Burton
Mae un o'r theatrau wedi ei henwi ar ôl Richard Burton

Roedd Y Fonesig Elizabeth Taylor, cyn-wraig yr actor, yno ar gyfer y cyhoeddiad.

Bydd yr actor Robert Hardy yn darllen teyrnged i'r actor o Bont-rhyd-y-fen.

Mae modd i 450 o bobl eistedd yn y neuadd gyngerdd arall sydd yn yr adeilad.

Mae'r coleg ar un o brif ffyrdd y ddinas, Ffordd y gogledd, ac mae wedi ei lleoli rhwng Y Ganolfan Ddinesig a Pharc Biwt.

Mae miloedd o bobl yn pasio'r adeilad ar y ffordd i mewn i'r ddinas ac wedi gweld yr adeilad newydd sbon yn cael ei godi o amgylch adeilad gwreiddiol y coleg dros y ddwy flynedd diwethaf.

Digwyddiadau

Mae myfyrwyr eisoes wedi dechrau defnyddio'r cyfleusterau newydd.

"Cyn gynted ag y rhodiodd yr adeiladwyr yr hawl i ni fynd mewn a defnyddio'r cyfleusterau fe wnaethon ni," meddai Heledd Gwyn o ardal Aberteifi sydd ar ei blwyddyn gynta yn astudio actio.

"Mae pawb yma a phobl yn dechrau dod i adnabod lle mae popeth."

Fe fydd 'na gyfres o ddigwyddiadau ar y safle dros y dyddiau nesaf.

Fe fydd enillydd cystadleuaeth Canwr y Byd 2005, Andrew Kennedy, ac Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio yno.

Cyngerdd Kennedy fydd agoriad swyddogol y neuadd gyngerdd, sydd wedi ei henwi ar ôl Dora Stoutzker a arferai ddysgu cerddoriaeth yn ne Cymru.

Roedd hi'n dod o Dredegar ym Mlaenau Gwent ac fe roddodd ei mab, Ian Stoutzker, £500,000 i'r Coleg ar gyfer y datblygiad.

Ymhlith adnoddau eraill yn y ganolfan y mae gofod dysgu, gofod ymarfer, stiwdios, galeri i arddangos gwaith myfyrwyr gan gynnwys cynlluniau theatrig a gwisgoedd, bar coffi a theras newydd sy'n edrych allan am Barc Biwt.

Fe gychwynnodd y gwaith o ailddatblygu'r safle yn 2009.



HEFYD
Coleg Cerdd ar ei newydd wedd
10 Meh 11 |  Newyddion
Enw Richard Burton ar theatr
29 Ebr 10 |  Newyddion
Cinio i ddathlu pen-blwydd coleg
29 Ebr 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific