British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 23 Mehefin 2011, 05:55 GMT 06:55 UK
Lansio Bas Data Cenedlaethol i'r heddlu

Nick Herbert AS
Y Gweinidog Plismona, Nick Herbert, fydd yn lansi'r bas data

Bydd Basa Data Cenedlaethol yr Heddlu yn cael ei lansio'n swyddogol gan y Gweinidog Plismona, Nick Herbert.

Fe fydd yn gwneud hynny ym mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Iau.

Mae'r Bas Data Cenedlaethol yn system dechnoleg gwybodaeth newydd fydd yn galluogi lluoedd heddlu i rannu, cael mynediad a chwilio am wybodaeth leol ar sail genedlaethol.

Bydd yn cynnig mynediad syth i'r wybodaeth ddiweddaraf yn ymwneud â throseddu lleol, gwybodaeth gyfrinachol a systemau trais yn erbyn plant neu drais yn y cartref.

'Cyfnewid gwybodaeth'

"Bydd y Bas Data Cenedlaethol yn cael effaith bositif dros ben ar y gwaith o ymchwilio troseddau yn Heddlu'r De a heddluoedd eraill ar draws y DU," meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Nick Croft.

"Fe fydd y system yn caniatáu i wasanaethau heddlu gyfnewid gwybodaeth yn fwy effeithiol ac effeithlon, gan roi cyfle gwell i sefydlu trywyddion newydd i ymchwilio iddyn nhw, a gweld patrymau troseddau ar draws ffiniau yn gynt.

"Mae'r cynnydd yn y wybodaeth fydd ar gael hefyd yn golygu y byddwn mewn gwell sefyllfa i amddiffyn y cyhoedd drwy wneud asesiadau risg ar sail gwybodaeth fwy diweddar sydd ar gyfrifiadur heddlu arall.

"Fe fydd y wybodaeth yna ar gael i bob llu ei ddefnyddio."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific