British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011, 16:03 GMT 17:03 UK
Comisiwn Ffiniau 'ddim yn addas'

Carl Sargeant AC
Mae Carl Sargeant wedi diswyddo'r Comisiwn Ffiniau

Mae Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru wedi diswyddo'r tri Comisiynydd Ffiniau Llywodraeth Leol ar ôl adroddiad sy'n dweud nad yw'r sefydliad yn addas i'w waith.

Mae'r tri wedi eu diswyddo ar unwaith gan Carl Sargeant.

Y cadeirydd oedd Paul Wood ac mae ei ddirprwy y Parch Hywel Meredydd Davies a'r aelod John Bader wedi eu diswyddo hefyd.

Daw'r cyhoeddiad wedi pryder gan gynghorau am gyfres o adolygiadau gan y Comisiwn oedd a'r nod o sicrhau bod cynghorwyr yn cynrychioli nifer gyfartal o etholwyr.

Awgrymwyd y byddai hyd at 200 o gynghorwyr - traean o'r cyfanswm - yn colli eu swyddi o dan yr argymhellion.

Ymchwiliad

Glyn Mathias, cyn-bennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru fu'n ymchwilio i'r broses.

Dywedodd y Gweinidog wrth ACau mai'r achos mwyaf o bryder iddo oedd bod diffyg hyder yn y Comisiwn ac o ganlyniad nad oedd y Comisiwn "ddim yn addas" i wneud ei waith.

"Mae hwn yn gasgliad difrifol tu hwnt ac rydw i wedi penderfynu dod a swyddi'r tri chomisiynydd presennol i ben.

"Credaf fod cymryd y cam pendant hwn a phenodi Comisiynwyr addas i gymryd eu lle yn angenrheidiol i adfer enw da'r Comisiwn yng ngolwg y cyhoedd, llywodraeth leol ac unrhyw un sy'n ymddiddori yn y mater."

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn Ffiniau Llywodraeth leol nad oedden nhw'n ymwybodol o'r datganiad tan ychydig cyn y cyhoeddiad.

"Dydan ni ddim wedi derbyn copi o'r adroddiad.

"Allwn ni ddim gwneud sylw tan ein ei bod wedi cael amser i'w astudio."

Mathemateg wallus

Swyddogaeth y sefydliad yw adolygu ffiniau etholaethol cynghorau.

Disgwylir i Mr Sargeant benodi comisiynwyr dros dro cyn penodi Comisiynwyr parhaol.

Y Gweinidog Llywodraeth Leol ar y pryd, Dr Brian Gibbons, lansiodd gyfres o adolygiadau ffiniau ym mis Ionawr 2009, gyda'r bwriad o sicrhau bod cynghorwyr yn cynrychioli ardaloedd cyfartal ar draws Cymru.

Ond daeth ymateb chwyrn gan gynghorau.

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Rodney Berman, bod y Comisiwn wedi gwneud camgymeriadau mathemategol wrth geisio cyfri cymarebau cynghorwyr i etholwyr.



HEFYD
Ystyried cwtogi nifer y cynghorwyr
03 Chwef 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific