British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011, 16:59 GMT 17:59 UK
Gwr yn euog o ladd ei wraig dros baned o de

Jacqueline Evans
Roedd Jackie Evans wedi cael ei thrywanu bedair gwaith

Mae dyn wnaeth drywanu ei wraig yn ei gwddf ar ôl ffrae am baned o de wedi ei gael yn euog o'i llofruddio.

Clywodd Dewi Evans, 61 oed, gan y barnwr Mr Ustus Lloyd-Jones y byddai'n cael dedfryd o garchar am oes.

Ond roedd y barnwr am gael mwy o amser i ystyried cyn penderfynu isafswm y ddedfryd.

Bydd Evans, o Maesyfelin, Pontyberem, yn cael ei ddedfrydu wedi i adroddiadau gan seiciatrydd a swyddog prawf gael eu paratoi.

'Dadl wirion'

Clywodd Llys y Goron fod Evans, cyn-löwr, wedi colli ei dymer ar ôl ffrae am baned o de.

Dywedodd wrth yr heddlu ei fod e a Jackie Evans, 57 oed, wedi cael "dadl wirion" a ddatblygodd yn ffrae arweiniodd ati hi'n ei drywanu yn ei stumog.

Ei ymateb yntau oedd ei thrywanu hi bedair gwaith yn ei gwddf.

Roedd Evans wedi pledio'n euog i ddynladdiad, ond wedi gwadu llofruddiaeth gan honni iddo golli rheolaeth am ennyd.

Dywedodd wrth yr heddlu ei fod yn caru ei wraig, a bod ganddo obsesiwn gyda hi.

Roedd yn ei chyhuddo'n aml o gael perthynas gyda dynion eraill er ei fod yn gwybod mai yn ei feddwl ei hun yr oedd hynny.

'Sensitif'

Ar ddiwrnod ei marwolaeth ym mis Tachwedd 2010, roedd Evans wedi cynnig paned o de i'w wraig ond roedd hithau wedi gwrthod.

O fewn 60 eiliad, roedd wedi ei thrywanu i farwolaeth.

Cafodd parafeddygon eu galw pan ddaeth mab y ddau, Carl, o hyd i'r corff yn gorwedd yn yr ystafell fyw - erbyn hynny roedd hi wedi marw.

Daeth croeso i'r rheithfarn gan Heddlu Dyfed Powys a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

"Mae hwn wedi bod yn achos sensitif iawn i'w ymchwilio ac i erlyn a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi sicrhau fod yr awdurdodau wedi gwneud hynny yn broffesiynol iawn, ac i'r rhai gefnogodd yr achos drwy roi tystiolaeth," meddai Iwan Jenkins, Dirprwy Brif Erlynydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron.

"Mae hwn wedi bod - ac yn parhau i fod - yn gyfnod anodd dros ben i'r teulu a'r rhai sy'n agos atyn nhw."



HEFYD
Cyhuddo dyn 61 oed o lofruddiaeth
23 Tach 10 |  Newyddion
Teyrnged i 'fam gariadus'
18 Tach 10 |  Newyddion
Marwolaeth amheus: Ymchwiliad
12 Tach 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific