British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011, 13:34 GMT 14:34 UK
Di-Gymraeg yn dewis addysg Gymraeg

Disgyblion ysgol
Mae'n stadudol bod awr bob pythefnos o wersi Cymraeg yn cael ei roi i bob disgybl

Mae rhieni'n dewis addysg Gymraeg i'w plant os allan nhw siarad yr iaith neu beidio.

Yn ôl arolwg diweddar gan Fwrdd yr Iaith, dydy anallu i siarad Cymraeg ddim yn atal rhieni di-Gymraeg rhag dewis ysgol Gymraeg i'w plant.

Yng nghyfrifiad 2001 roedd cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru am y tro cyntaf ers bron i ganrif ac mae llawer o'r clod am hynny'n cael ei roi i addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae nifer o rieni di-Gymraeg yn anfon eu plant i ysgolion Cymraeg heb unrhyw gyswllt teuluol â'r iaith o gwbl.

65%

All 65% o rieni sy'n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg ddim siarad Cymraeg eu hunain ond dydyn nhw ddim yn teimlo bod eu diffyg Cymraeg nhw yn atal eu plant rhag cael eu haddysg drwy'r iaith.

Roedd bron pob rhiant a holwyd, 97% ohonynt, yn dweud eu bod wedi dewis addysg Gymraeg i'w plant am eu bod eisiau i'r plant ddysgu'r iaith a dyna'u prif reswm dros ddewis ysgol Gymraeg iddyn nhw.

"Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos nad yw rhieni di-Gymraeg yn teimlo fod y ffaith nad ydynt yn siarad yr iaith eu hunain yn rhwystr rhag anfon eu plant i ysgolion Cymraeg," meddai cadeirydd Bwrdd yr Iaith, Meri Huws.

"Mae manteision siarad Cymraeg o oedran cynnar yn niferus iawn, o ran addysg a gyrfa'r plant yn y dyfodol."

Yn ôl yr arolwg, roedd bron hanner y rhieni a holwyd yn teimlo bod siarad Cymraeg yn debygol o agor drysau gyrfaol i'w plant ac yn rhoi mantais economaidd iddyn nhw.

'sgil'

Rhieni ysgol gynradd holwyd yn yr arolwg, fel rhan o ymgyrch 'Cyflwyno'r Gymraeg' y Bwrdd, ymgyrch sy'n hyrwyddo dysgu Cymraeg i blant.

Mae'n rhoi cyngor i rieni sut i gyflwyno'r Gymraeg i'w plant a sut i'w magu'n ddwyieithog.

Rhiant di-Gymraeg yng Ngaerdydd yw Rhys Evans, oedd yn "bendant eisiau" i'w blant siarad Cymraeg.

"Sut all cael sgil ychwanegol fod yn beth gwael iddyn nhw, yn arbennig pan mae iaith ei gwlad nhw yw'r sgil honno?" meddai.

Mae ei ferch bump oed eisoes yn yr ysgol ac fe fydd ei ferch dair oed yn dechrau mewn addysg Gymraeg fis Medi.

"Rydw i'n ei helpu hi gyda mathemateg. Mae maths yn ddiflas beth bynnag yw'r iaith!"



HEFYD
6 miliwn i ddysgu Cymraeg
13 Meh 11 |  Newyddion
Cymorth i'r dysgwyr ar y Maes
01 Awst 10 |  Newyddion
Cyhoeddi stategaeth addysg Gymraeg
20 Ebr 10 |  Newyddion
Iaith Pawb: 'Blwyddyn bwysig'
12 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific