British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011, 14:51 GMT 15:51 UK
S4C: Diswyddiadau gwirfoddol yn arwain at 29 yn gadael

Mae S4C wedi cyhoeddi fod 29 o aelodau staff i adael eu swyddi o dan gynllun diswyddo gwirfoddol y sianel.

Mae'r Sianel yn wynebu gostyngiad yn ei chyllideb o 24% dros bedair blynedd o ganlyniad i doriadau Llywodraeth San Steffan.

Ar hyn o bryd, cyn y diswyddiadau, mae ychydig dros 150 yn gweithio i S4C.

Yn ogystal â gwahodd ceisiadau diswyddo gwirfoddol, cyhoeddodd S4C ei fod yn barod hefyd i ystyried ceisiadau gan staff sy'n dymuno lleihau eu horiau gwaith neu rannu swydd.

Dywedodd Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C, ddydd Mercher wrth gyhoeddi'r newyddion ei bod yn "fater trist gweld staff yn gadael".

"Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cyfraniad, nifer ohonyn nhw ers blynyddoedd lawer.

Beirniadaeth

"Dyma ran gyntaf proses fydd yn arwain at ail-strwythuro S4C er mwyn adnabod arbedion pellach a sicrhau dyfodol tymor hir y sianel."

Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn y mwyafrif o'i chyllid drwy grant oddi wrth y llywodraeth oedd yn 2009-10 werth tua £100 miliwn.

Fel rhan o'r o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth San Steffan fis Hydref y llynedd cyhoeddwyd hefyd y byddai'r BBC yn bennaf gyfrifol am ariannu'r Sianel ar ôl 2013.

Mae nifer o fudiadau a gwleidyddion yng Nghymru wedi beirniadu'r penderfyniad, gan ddweud y bydd yn peryglu annibyniaeth golygyddol y Sianel.

Dywed y BBC y byddan nhw'n parchu annibyniaeth S4C.



HEFYD
S4C: Galw am ddiswyddiadau
12 Mai 11 |  Newyddion
S4C a BBC i gyd-weithio
14 Hyd 10 |  Newyddion
S4C: Amheuaeth am doriad o £2m
21 Medi 10 |  Newyddion
Cadarnhau Huw Jones fel cadeirydd
06 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific