British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011, 11:30 GMT 12:30 UK
Tm Olympaidd: Pryder Southall

Neville Southall
Dywedodd Southall nad yw'n hapus gyda chyhoeddiad FA Lloegr

Neville Southall yw'r diweddara o gyn chwaraewyr Cymru i fynegi pryder am statws rhyngwladol Cymru pe bai tîm yn cynrychioli Prydain Fawr yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd.

Daw sylwadau cyn gôl-geidwad Cymru ar ôl i Gymdeithas Olympaidd Prydain ddweud eu bod wedi dod i gytundeb hanesyddol gyda'r Gymdeithas Bêl-droed ynglŷn â'r mater.

Ond mae Cymdeithasau Pêl-droed Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi datgan eu gwrthwynebiad i dimau yn cystadlu yn y Gemau.

Dywedodd Neville Southall y byddai'n creu problemau i'r dyfodol.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd o'r farn y byddai dewis tîm o Brydain i gymryd rhan mewn Gemau Olympaidd yn peryglu annibyniaeth Cymru o fewn Fifa, y corff sy'n rheoli pêl-droed rhyngwladol.

Baner

Ddydd Mercher dywedodd datganiad ar ran Cymdeithas Olympaidd Prydain:

"Mae'r FA wedi ymgynghori gyda'i phartneriaid yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon i ddatblygu proses o ddewis chwaraewyr (ar gyfer y gystadleuaeth).

"Bydd rhestr o chwaraewyr yn cael ei llunio gan reolwyr tîm pêl-droed y dynion a'r merched a bydd gofyn i'r cymdeithasau roi gwybod a yw'r chwaraewyr ar gael."

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad ydynt wedi rhoi sêl bendith i gynllun FA Lloegr.

Dywedodd Southall hefyd nad yw'n hapus gyda chyhoeddiad FA Lloegr.

"Holl bwrpas y Gemau Olympaidd yw'r foment arbennig honno pan mae baner eich gwlad yn cael ei chodi," meddai Southall.

"Pa faner fydd yn chwifio pe baent yn ennill? Jac yr Undeb, wel nid dyna fy maner i, fy maner i yw'r Ddraig Goch".

Dywedodd hefyd ei fod yn credu mai cystadleuaeth i athletwyr amatur yw'r Gemau Olympaidd nid i bêl-droedwyr proffesiynol.



HEFYD
Ffrae am dm pl-droed Olympaidd
21 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific