Please turn on JavaScript. Media requires JavaScript to play.
Seren yn Hollywood i Richard Burton
Bydd cyfraniad Richard Burton i'r byd actio yn cael ei gydnabod yn Hollywood, gyda seren yn cael ei gosod ar rodfa'r enwogion.
Dywed ymgyrchwyr o Gymru sy wedi bod yn galw am anrhydedd o'r fath y byddant yn mynd ati i gasglu £28,000 mewn pum mlynedd.
Mae angen yr arian i osod ac i ofalu am y seren.
Bu farw Burton, mab i löwr o Bontrhydyfen, ger Port Talbot yn 1984 yn 58 oed.
Cafodd ei enwebu ar gyfer saith Oscar er ni lwyddodd iennill y wobr.
'Gwerthfawrogiad'
Yr Athro Dylan Jones-Evans o Brifysgol Cymru sydd y tu cefn i'r fenter i gasglu'r arian.
"Fel arfer cwmnïau ffilmiau sy'n talu am osod y seren, ond dwi'n meddwl ei fod yn bwysig ein bod ni yng Nghymru yn codi'r arian ein hunain.
Cafodd Richard Burton ei eni ym Mhontrhydyfen
"Byddai Richard Burton wedi bod yn falch o weithred o'r fath ac mae'n dangos ein gwerthfawrogiad fel gwlad o'i dalentau."
Mae'r ymgyrch hefyd yn gobeithio codi £20,000 yn ychwanegol.
Bydd yr arian yna yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ysgoloriaethau yng Ngholeg Celf a Drama Cymru.
Mae'r ymgyrch wedi derbyn sêl bendith merch Burton, Kate, a hefyd yr actorion Michael Sheen a Matthew Rhys.
Mae tua 20 o sêr newydd yn cael eu gosod bob blwyddyn yn Holywood ar gyfer artistiaid ym myd ffilm, theatr, radio ac adloniant.
Bydd un o'r sêr yn cael ei roi i enwogion sydd wedi marw.