British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011, 17:55 GMT 18:55 UK
Arglwydd Patten yn galw am bartneriaeth synhwyrol

Yr Arglwydd Patten
Cafodd Yr Arglwydd Patten ei benodi'n gadeirydd yr ymddiriedolaeth yn gynharach eleni

Dywed cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC ei fod am weld partneriaeth "synhwyrol ac effeithiol rhwng BBC Cymru ac S4C".

Roedd Yr Arglwydd Patten yn cydnabod fod y gorfforaeth yn wynebu cyfnod o her yn wyneb toriadau o hyd at 20%.

Dywedodd ei fod am i S4C gadw ei gallu i fod yn "greadigol annibynnol" unwaith y daw'r BBC yn gyfrifol am ariannu rhan helaeth o'r Sianel.

Wrth gael ei gyfweld ar Radio Wales dywedodd yr Arglwydd Patten, gafodd ei benodi'n gadeirydd fis diwethaf, nad oedd yn arfer ganddo i "danseilio annibyniaeth pobl eraill".

"Mae'n rhan o'm gwaith i amddiffyn annibyniaeth y BBC," meddai.

Blaenoriaeth

"Oherwydd fy mod yn gyfrifol am arian pobl sy'n talu'r drwydded rwyf am weld partneriaeth synhwyrol ac effeithiol gydag S4C.

"Ond rwyf am i'r Sianel fod yn greadigol annibynnol, " meddai.

"Bydd y sianel ddim yn cael ei holl arian gan y BBC - a bydd yn gyfrifol am godi peth o'r arian ei hunain.

"Fy mlaenoriaeth yw cydweithio gyda S4C ...er mwyn cynhyrchu rhaglenni gwell."

Dywedodd yn yr hir dymor ei fod am drafod sut i "amddiffyn ac i gryfhau yr iaith Gymraeg".

Yn ôl Yr Arglwydd Patten roedd o'n hyderus bod modd datblygu partneriaeth fyddai'n tanlinellu gyda phendantrwydd annibyniaeth S4C.

Mae nifer wedi bod yn feirniadol o benderfyniad Llywodraeth San Steffan i roi gofal ariannol S4C i'r BBC.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cynnal nifer o brotestiadau a dydd Mercher roedden nhw'n lobio y tu allan i gyfarfod rhwng Yr Arglwydd Patten, Cadeirydd Newydd Awdurdod S4C Huw Jones, ac Aelodau'r Cynulliad ym Mae Caerdydd.



HEFYD
Protest yn erbyn toriadau i'r cyfryngau
20 Meh 11 |  Newyddion
'Toriadau ddim yn dderbyniol'
25 Mai 11 |  Newyddion
BBC o dan y lach
19 Mai 11 |  Newyddion
S4C: Protestio yn Llundain
30 Maw 11 |  Newyddion
S4C: Protestwyr yn trafod 'r BBC
11 Maw 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific