British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011, 07:48 GMT 08:48 UK
Antigua: 'Modd agor clwyd heb allwedd'

Catherine a Ben Mullany
Cafodd Catherine a Ben Mullany eu lladd tra ar eu mis ml.

Clywodd llys yn Antigua bod modd agor clwyd heb allwedd y tu ôl i fwthyn lle cafodd pâr priod o Gymru eu llofruddio.

Cafodd Ben a Catherine Mullany o Gwm Tawe eu llofruddio ar ddiwrnod olaf eu mis mêl ar Orffennaf 27, 2008.

Mae Kaniel Martin 23 oed ac Avie Howell, 20 oed, yn gwadu cyhuddiad o lofruddio Mr a Mrs Mullany a gweithiwr siop ar yr ynys, Weneta Anderson.

Dywedodd Alan Tribe o Heddlu'r Met y gallai unrhyw un agor y glwyd.

Casglu tystiolaeth

Yn y llys Ddydd Mawrth dywedodd Mr Tribe iddo gyrraedd y gwesty ar ran Heddlu'r Met ar Awst 2 2008.

Roedden nhw'n cydweithio gyda Heddlu Brenhinol Antigua a Barbuda i gasglu tystiolaeth o safle'r llofruddiaethau.

Disgrifiodd Mr Tribe y glwyd ger y bwthyn lle'r oedd y cwpl yn aros, a dywedodd y gellid agor y ddau glo trwy ymestyn trwy'r ffens, hyd yn oed os oedd y glwyd wedi ei chloi o'r tu allan.

"Heb fawr o drafferth"

Mae hyn yn dilyn tystiolaeth a glywodd y llys yn gynharach yn yr achos gan swyddog diogelwch a ddywedodd nad oedd 'na glo ar y glwyd oedd yn arwain at y bythynnod.

Dywedodd Brinsley Barrie wrth y llys bod modd agor y glwyd i'r gwesty "heb fawr o drafferth".

Roedd Mr Barrie ar ddyletswydd pan ymosodwyd ar y cwpl yn eu bwthyn ond dywedodd wrth y llys na fyddai modd clywed yr ergydion yn y dderbynfa.

Dywedodd mai ei swydd o oedd cau'r glwyd gyda'r nos ond na wnaeth ei gloi yn iawn.

Ar y diwrnod dan sylw doedd 'na ddim clo ar y glwyd bren dim ond bollt a "darn o haearn".

Cytunodd y gallai gwestai oedd wedi eu cloi allan yn hwyr yn y nos fynd i mewn i'r safle "heb fawr o drafferth".

Pan ofynnwyd iddo a allai rhywun ddringo dros y rhwystr, cytunodd y gallai hynny ddigwydd.

Gorffennaf 27 2008

Ar Orffennaf 27 2008 y cafodd y ddau eu saethu, bythefnos ar ôl eu priodas.

Bu farw Mrs Mullany - oedd newydd gymhwyso fel meddyg - yn syth.

Roedd ei gŵr yn astudio i fod yn ffisiotherapydd a bu farw wythnos yn ddiweddarach mewn ysbyty yng Nghymru ar ôl cael ei gludo mewn awyren.

Roedd wedi bod ar beiriant cynnal bywyd yn Antigua ac yn ystod ei gyfnod yn Ysbyty Treforys.

Cafodd Ms Anderson ei llofruddio ar Awst 9.

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Antigua: 'Cerdyn ffn wedi ei ddwyn'
16 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Dau wedi eu saethu
14 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Holi swyddog diogelwch
08 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Disgrifiadau manwl
06 Meh 11 |  Newyddion
Priodferch: 'Ymladd am ei bywyd'
03 Meh 11 |  Newyddion
Llys: Cwpl yn "ffrindiau mynwesol"
03 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: 'Dim clo ar y glwyd'
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Tystiolaeth parafeddyg
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Achos llys yn dechrau
01 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific