British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2011, 15:51 GMT 16:51 UK
Carwyn Jones yn galw am fwy o arian i Gymru

Carwyn Jones yn y Siambr
Mae Carwyn Jones am weld datganoli pwer threthu

Dymuna'r Prif Weinidog Carwyn Jones ddatganoli pwerau trethiant i allu codi £200 miliwn mewn treth.

Ymhlith y trethi y byddai'n dymuno cael gofal drostyn nhw y mae treth tirlenwi, treth stamp a tholl teithwyr awyr.

Tra bod y gwrthbleidiau ar y cyfan yn croesawu'r cyhoeddiad, roedd Plaid Cymru'n dymuno i'r llywodraeth fynd gam ymhellach a gofyn am bwerau codi trethi corfforaethol.

Mewn datganiad yn y siambr i Aelodau'r Cynulliad, galwodd Carwyn Jones am un pecyn clir a chyflawn er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon.

Dywedodd y byddai'n galluogi'r llywodraeth i fuddsoddi mewn gwaith adeiladu er mwyn rhoi hwb i'r economi.

Fel rhan o'r pecyn ariannol, galwodd hefyd am ddiwygio'r fformiwla o ariannu Cymru, Fformiwla Barnett, i system o ariannu ar sail angen.

'Sgwrs adeiladol'

Trafododd hefyd y posibilrwydd o ddatganoli pwerau ariannol o Lundain lle mae'r cyfran helaeth o b?er eisoes gan Lywodraeth Cymru.

"Rydw i wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU ein bod ni eisiau sgwrs adeiladol ar ddatblygu pecyn cyllido clir i Gymru," meddai.

Dywedodd nad oedd am fod ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill DU ac er mai diwygio Fformiwla Barnett yw'r flaenoriaeth mae eisiau'r un pwerau benthyg ag a fydd gan Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae arweinydd Plaid Cymru'n cwestiynu pam fod y Prif Weinidog yn rhoi treth gorfforaethol mewn bocs gwahanol i drethi fel ardrethi busnes a threth teithwyr awyr.

'Dryslyd'

"Dywed y Prif Weinidog ei fod yn credu bod yr hyn sy'n ddigon da i'r Alban yn ddigon da i Gymru, ac eto, mae'n gwrthod i Gymru gael yr un lefel o ddatganoli cyllidol," meddai Ieuan Wyn Jones.

"Mae agwedd bresennol y llywodraeth at feysydd fel y dreth gorfforaeth yn ymddangos yn ddryslyd iawn.

"Nid yw dweud y dylai Cymru gael yr arfau cyllidol i wella ei heconomi, ond na fydd ei llywodraeth yn dadlau'r achos dros eu datganoli, yn ennyn hyder o gwbl."

Y rheswm dros fod yn "amheus" am dreth gorfforaethol yw y byddai'n effeithio ar grant y Cynulliad oddi wrth lywodraeth y DU, meddai'r Prif Weinidog.

"Tra bod posibilrwydd y gall treth gorfforaethol hybu datblygiad economaidd, rhaid ystyried y risg gyllidebol o'i ddatganoli," meddai Carwyn Jones.

"Eto fyth, mae'r manylion unrhyw newidiadau yn hanfodol ac fe fydd yn rhan o'r trafodaethau yr ydym ni'n ei geisio gyda Llywodraeth y DU ar y pecyn diwygio cyllidebol cyffredinol.

"Rydw i'n glir iawn beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru - mae hi nawr yn amser i lywodraeth y DU fod yn glir beth yw ei safbwynt hi."

Dywedodd Cheryl Gillan AS, yr Ysgrifenydd Gwladol bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i adolygu'r ffordd mae Cymru'n cael ei ariannu.

"Wrth i ni wneud hynny, y flaenoriaeth yw i sefydlogi cyllideb y cyhoedd er mwyn hybu twf, helpu i gadw cyfraddau llog yn isel a gwarchod swyddi ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig," meddai.



HEFYD
Galw am fwy o arian i Gymru
08 Meh 11 |  Newyddion
'Parch' ar yr agenda yn Llundain
08 Meh 11 |  Newyddion
Hyder y Frenhines yn y Cynulliad
07 Meh 11 |  Newyddion
Arweinwyr yn erbyn toriadau
07 Hyd 10 |  Newyddion
Ysgrifennydd Cymru: Y cam nesa?
10 Maw 11 |  Newyddion
'Angen parch,' medd Cameron
17 Mai 10 |  Newyddion
'Heb frwydro i gael mwy o gyllid'
04 Ebr 11 |  Newyddion
Comisiwn: Holtham wrth y llyw
08 Gorff 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific