British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Mehefin 2011, 14:14 GMT 15:14 UK
Wigley: 'Angen iawndal i Gymru'

Dafydd Wigley
Yr Arglwydd Wigley yn galw am atal Tryweyn arall yng Nghymtu

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru wedi dweud y dylai Cymru gael iawndal petai cyflenwad dŵr yn cael ei gymryd oddi yma er mwyn ateb y prinder yn Lloegr.

Daw sylwadau Arglwydd Dafydd Wigley ar ôl i Faer Llundain alw am ddargyfeirio dŵr o Gymru a'r Alban i ardaloedd sych Lloegr.

Dywedodd Boris Johnson bod dwr yn syrthio ar dir uchel Cymru a'r Alban, yn fodd o ateb y prinder dŵr yn ne a dwyrain Lloegr.

Ond mae'r Arglwydd Wigley yn dweud bod y sylwadau a wnaeth Mr Johnson "wedi dod fel sypreis".

Yn ei golofn ym mhapur newydd y Daily Telegraph , mae Mr Johnson yn dweud "gan fod Yr Alban a Chymru ar y cyfan yn uwch i fyny na Lloegr, does bosib ei bob yn hen bryd i wneud yr amlwg - defnyddio disgyrchiant i ddod a glaw dros ben o'r mynyddoedd i ddyfrhau ac adfywio'r fasged fara y wlad yn y de a'r dwyrain."

Atal Tryweryn arall

Dywedodd Yr Arglwydd Wigley wrth raglen AMPM BBC Cymru ddydd Mercher y dylai datganoli fod yn rhwystr i 'Dryweryn' arall.

"Yn anffodus, be oedd Boris Johnson ddim yn sylweddoli ydi pwnc mor ymfflamychol ydi dŵr yng Nghymru," meddai.

"Dwi'n cofio Tryweryn a'r teimlad cwbl ddealladwy adeg boddi Capel Celyn.

"Efo dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol roedd llawer yn disgwyl na fyddai rhywbeth fel yma byth yn digwydd eto.

"Ond mae'n debyg y gall gweinidogion yn llywodraeth Prydain efo'r hawl i dorri ar draws unrhyw wrthwynebiad gan y Cynulliad a gorfodi cynlluniau ar Gymru.

"Os ydi hyn yn codi fe fydd 'na le poeth iawn iawn yng Nghymru."

Mae'r Arglwydd Wigley wedi codi'r mater yn Nhŷ'r Arglwyddi ond cafodd "ateb gofalus".

"Fydd y pwnc yma ddim yn diflannu ac mae angen ei drafod a'i datrys.

"Ac fe ddylai Cymru gael iawndal am gymryd dŵr yn y fath fodd."



HEFYD
Plaid Cymru eisiau pwer dros ddwr
14 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific