British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2011, 15:59 GMT 16:59 UK
Ffrae am dm pl-droed Olympaidd

Aaron Ramsey (dde) a Scott Parker
Gallai chwaraewyr fel Aaron Ramsey fod yn chwarae gyda chwaraewyr Lloegr yng ngemau 2012

Mae ffrae yn corddi ar ôl cyhoeddiad y bydd pêl-droedwyr o Gymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ar gael i'w dewis ar gyfer tîm Olympaidd Prydain i'r Gemau Olympaidd yn 2012.

Roedd pob un o'r gwledydd, heblaw am Loegr, wedi gwrthwynebu'r syniad o ffurfio tîm Prydeinig ar gyfer y Gemau.

Ond cyhoeddodd Cymdeithas Olympaidd Prydain ddydd Mawrth eu bod wedi dod i "gytundeb hanesyddol" erbyn hyn.

"Mae wedi bod yn siwrne faith, chwe blynedd i gyrraedd fan hyn," meddai prif weithredwr y gymdeithas, Andy Hunt.

Dyw Prydain ddim wedi cystadlu mewn cystadlaethau pêl-droed yn y Gemau Olympaidd ers 1960, pan fethodd tîm y dynion a chael medal yn Rhufain ar ôl curo Taiwan o 3-2, cael gêm gyfartal 1-1 â'r Eidal, a cholli o 4-3 yn erbyn Brasil.

Y flwyddyn nesa' fydd y tro cynta' i dîm pêl-droed merched o Brydain gystadlu yn y Gemau Olympaidd.

'Dim hawl'

Ond mae cyhoeddiad y gymdeithas wedi cythruddo cymdeithasau pêl-droed Cymru a'r Alban.

Yn ôl Phil Pritchard, llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, doedd gan Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ddim hawl i siarad ar ran y cymdeithasau eraill ar faterion Olympaidd.

"Dydyn ni ddim yn rhan o unrhyw gytundeb," meddai wrth asiantaeth newyddion PA.

"Does gan yr FA ddim hawl i siarad ar ein rhan - dy'n nhw ddim yn cynrychioli Cymru o gwbl, ac mae hynny'n ffaith.

"Dydyn ni ddim wedi trafod hyn o gwbl yn ddiweddar."

Cadarnhaodd prif weithredwr y gymdeithas, Jonathan Ford, nad oedden nhw wedi dod i unrhyw gytundeb ynglŷn â thîm Prydain a Gemau Olympaidd 2012.

Dywedodd llywydd y gymdeithas yn Yr Alban, George Peat: "Rwy'n methu credu eu bod wedi gwneud y datganiad yma.

"Dwi ddim yn ymwybodol o unrhyw gytundeb o'r fath a dydyn ni ddim eisiau unrhyw beth i wneud â'r gystadleuaeth hon."

Ymgynghoriad

Roedd datganiad Cymdeithas Olympaidd Prydain yn awgrymu bod y timau cartre' i gyd yn cefnogi ffurfio tîm Prydeinig, gyda chwaraewyr o Loegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru.

"Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi ymgynghori gyda'r cymdeithasau yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon i ddatblygu strwythur i ddewis chwaraewyr ac amserlen," meddai'r datganiad.

"Mae pob un o'r pedwar mudiad wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan ysgrifennydd cyffredinol Fifa, y ffederasiwn pêl-droed rhyngwladol, yn dweud na fydd bod yn rhan o gystadleuaeth pêl-droed yng Ngemau Olympaidd 2012 yn tanseilio'u hannibyniaeth mewn cystadlaethau eraill mewn unrhyw ffordd, nac ychwaith yn effeithio ar eu dylanwad o fewn strwythur llywodraethol Fifa."

Aeth datganiad y gymdeithas ymlaen i ddisgrifio sut y byddai tîm y dynion yn cynnwys 18 chwaraewr - 15 o rhai dan 23 oed, a thri chwaraewr o unrhyw oed.

Ychwanegodd y byddai'r broses o ddewis chwaraewyr yn dechrau yn ddiweddarach eleni, gyda chyhoeddiad ynglŷn â rheolwyr y timau dynion a merched i ddod yn nes ymlaen.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific