British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2011, 08:39 GMT 09:39 UK
Adroddiad cocos ddim yn barod

Casglu cocos
Mae 'na filoedd o gocos yn marw yn gynamserol

Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd ei bod hi wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl i ganfod beth achosodd i gocos farw yng nghilfach Porth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin.

Ar gais Llywodraeth Cymru, roedd yr Asiantaeth wedi gofyn i Brifysgol Hull gynnal ymchwiliad annibynnol i farwolaethau miloedd o dunelli o gocos yn 2008.

Dywed y brifysgol ei bod hi wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl i ddadansoddi'r canlyniadau.

Mae disgwyl nawr y bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn yr haf.

Fe gafodd adroddiad dros dro ei gyhoeddi ym mis Mai 2010, gan ddweud nad safon gwael y dŵr oedd yn gyfrifol.

Parasit

Mae'r diwydiant yn lleol yn rhoi gwaith i tua 50 o gasglwyr, ac roedd rhai ohonyn nhw yn rhoi'r bai ar garthffosiaeth a materion amgylcheddol eraill.

Bu'r mater yn destun dadl yn yr ardal, ac fe fu'n rhaid gohirio gwaith datblygu wrth i'r ymchwiliad cychwynnol gael ei gynnal.

Yn gynharach eleni, fe ddywedodd gwyddonwyr iddyn nhw ddod o hyd i barasit arbennig yn y dŵr yn yr ardal.

Fel arfer, dim ond mewn cocos yn America y mae'r parasit arbennig yma i'w weld, ac nid yw'n effeithio ar bysgod cregyn eraill.

Bydd yr adroddiad terfynol, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf.



HEFYD
'Peryg y parasit estron'
27 Ion 11 |  Newyddion
Cau gwely cocos ar ôl profion
20 Ebr 09 |  Newyddion
Cocos: Asiantaeth yn ymchwilio
27 Meh 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific