British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Mehefin 2011, 12:17 GMT 13:17 UK
Gwaith argyfwng ar hen ysbyty yn Ninbych

Adeilad hen Ysbyty Gogledd Cymru
Mae angen diogelu'r adeilad, yn ôl y cyngor

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi penodi contractwyr arbennig i gynnal gwaith ar hen ysbyty seiciatryddol Gogledd Cymru, ar ôl cyhoeddi rhybudd ffurfiol i berchnogion y safle.

Mae'r cyngor yn pryderu ynglŷn â chyflwr yr adeilad rhestredig ac roedden nhw wedi cyflwyno rhybudd ffurfiol i gwmni Fremont (Denbigh), yn caniatáu swyddogion y cyngor i ymweld â'r safle o fewn pythefnos heb ganiatâd y perchnogion.

Bydd y contractwyr, Wye Valley Demolition Ltd, yn dechrau ar y gwaith ar Fehefin 20 ac mae disgwyl i'r gwaith gymryd chwe mis.

Byddan nhw'n mynd i'r afael â phroblemau fel pydredd coed, pryderon diogelwch a rhannau o'r to sy'n gollwng, gan atal yr adeilad rhag dirywio ymhellach a dymchwel o bosib.

Ateb tymor hir

Y gobaith yw y bydd modd defnyddio'r adeilad ar gyfer rhywbeth arall.

Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn bwriadu parhau i gydweithio gydag asiantaethau eraill i ddod o hyd i ateb tymor hir, cynaliadwy ar gyfer y safle.

Cafodd yr adeilad ei godi ym 1844, gan gynnig gwasanaeth i gleifion seiciatryddol gogledd Cymru.

Fe gaeodd yr ysbyty ym 1995 ac fe gafodd y safle ei brynu gan gwmni Fremont o Preston.

Bwriad gwreiddiol y cwmni oedd codi 280 o dai ond cafodd y cais cynllunio ei wrthod.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae'r lle wedi cael ei ddifrodi gan fandaliaid a thân.



HEFYD
Ysbyty: Swyddogion i archwilio
07 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific