British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Mehefin 2011, 13:26 GMT 14:26 UK
ApÍl i gadw draw o weilch Dyfi

Y gwalch yn y nyth
Glaniodd yr aderyn ysglyfaethus yng ngwarchodfa Cors Dyfi ar Ddydd Gwener y Groglith

Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i'r cyhoedd i beidio â cheisio darganfod lleoliad nyth gweilch yn Nyffryn Dyfi.

Ym mis Mehefin, ganed y cyw gweilch gyntaf yn yr ardal am y tro cyntaf ers pedair canrif.

Ond mae'r heddlu yn dweud bod sawl un wedi anwybyddu'r gyfraith er mwyn cael cipolwg agosach at y nyth.

Dywedodd Matthew Howells, swyddog troseddau cefn gwlad ac amgylcheddol Heddlu Dyfed Powys nad peryglu eu bywydau yn unig y mae'r rhain.

Amddiffyn

"Mae'r bobl yma, nid yn unig yn peryglu dyfodol yr adar wrth eu haflonyddu yn eu man nythu, ond hefyd yn peryglu bywydau eu hunain wrth gerdded ar hyd y rheilffordd yn eu hymdrech ddarganfod y nyth.

"Maen nhw'n torri'r gyfraith wrth dresbasu ar y rheilffordd, sydd â chosb benodedig.

"Mae'r gweilch hefyd wedi eu hamddiffyn o dan y ddeddf bywyd gwyllt a chefn gwlad 1981, ynghyd a'u cywion a'u nythod."

Cadarnhaodd ei fod yn fodlon arestio, cwestiynu ac erlyn unrhyw un oedd yn anwybyddu'r cyfreithiau yma.

Mae Prosiect Gweilch Dyfi wedi bod yn gweithio ers tair blynedd i ail-gyflwyno'r adar prin i'r ardal ar ôl i un gwryw dechrau nythu yn y gors.

Eleni, daeth menyw ato a ganed tri chyw i'r pâr.

Gofynnir i'r cyhoedd sydd â diddordeb yn y cywion ymweld â Chanolfan Gweilch Dyfi ar yr A487, i'r de o Dderwenlas ger Machynlleth.

Yna, gellir edrych ar y nyth ar y tair sgrin plasma yng nghwmni arbenigwyr natur.



HEFYD
Cywion: Cynta mewn canrifoedd
06 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific