British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Mehefin 2011, 11:43 GMT 12:43 UK
Groeg: Tad yn ystyried apelio

Jonathan Hiles
Bu farw Jonathan Hiles o anaf i'w ymennydd

Mae tad llanc o Gaerdydd, fu farw mewn clwb nos yng Ngwlad Groeg bedair blynedd yn ôl, yn dweud ei fod yn ansicr a ddylai apelio wedi i lys gael dyn yn ddieuog o'i ladd.

Dydd Gwener cafwyd Andrew Symeou, 22 oed o ogledd Llundain, yn ddieuog o ddynladdiad Jonathan Hiles yn Zakynthos.

Bu farw Mr Hiles, 18 oed, ar ôl disgyn oddi ar bodiwm dawnsio gan anafu ei ymennydd.

Yn ôl ei dad, Denzil Hiles, bydd yn gofyn am gyngor cyn penderfynu beth i'w wneud nesa'.

Estraddodi

Roedd Mr Hiles - fu'n aelod o Dîm Hoci Iâ Iau Cardiff Devils ac a gynrychiolodd Prydain mewn cystadlaethau hoci iâ a hoci ar olwynion - ar wyliau ym mis Gorffennaf 2007 yn Zakynthos pan fu farw, ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 19 oed.

Andrew Symeou
Roedd Andrew Symeou wedi gwadu ei fod yn y clwb ar y pryd

Roedd Mr Symeou wedi'i gyhuddo o daro'r llanc yn ei wyneb, gan ei daro drosodd yn y broses ac achosi iddo ddisgyn oddi ar y podiwm.

Roedd Mr Symeou wedi gwadu ei fod yn y clwb nos ar y pryd.

Cafodd ei estraddodi i Wlad Groeg i wynebu achos llys ym mis Gorffennaf 2009 a chynhaliodd elusen 'Fair Trials International' ymgyrch i'w ryddhau.

Dywedodd Denzil Hiles, a ddaeth yn ôl i Gaerdydd dros y penwythnos, wrth BBC Cymru na fydd o fyth yn dod i delerau â cholli ei fab a bod ganddo nawr benderfyniad mawr i'w wneud.

"Fydda' i fyth yn gallu cau pen mwdwl ar y cyfan, mae fy mab wedi marw," meddai.

"Alla' i ddim cerdded i ffwrdd a dweud dyna ni, mae wedi marw, dyna ddiwedd ar ei fywyd ac ymlaen â fy un i.

"Dyw hi ddim yn iawn bod llanc yn mynd ar ei wyliau ac yn dod yn ôl mewn bocs.

"Mae pobl yn mynd yn sâl, ond doedd Jonathan ddim yn sâl."

'Dim dewis'

Mae gan Mr Hiles tan ddydd Gwener i benderfynu a fydd yn apelio.

"Mae'n rhaid i mi ofyn barn eraill a ddylwn i ai peidio.

"Yn bersonol, ar hyn o bryd rwy'n teimlo nad oes gen i ddewis ond gwneud.

"Dwi ddim yn gwybod i fod yn onest os mai o fudd i Andrew neu fi fyddai ei anfon yn ôl i'r carchar.

"Y peth ola' dwi eisiau ei wneud yw achosi caledi neu boen i rhywun."

Mae Mr Hiles yn dweud ei fod yn anhapus ynglŷn â'r ffordd y cafodd yr achos ei drin yn y DU ac yng Ngwlad Groeg ac y bydd yn gofyn am gyngor ynglŷn â'r camau nesa'.



HEFYD
Di-euog o ladd Cymro
17 Meh 11 |  Newyddion
Clegg i gwrdd theulu Jonathan Hiles
08 Tach 10 |  Newyddion
Protest am fyfyriwr yng Ngroeg
11 Ion 10 |  Newyddion
Myfyriwr yn cael ei estraddodi
23 Gorff 09 |  Newyddion
Dynladdiad: O flaen llys yng Ngroeg
01 Mai 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific