British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Mehefin 2011, 09:03 GMT 10:03 UK
Protest yn erbyn toriadau i'r cyfryngau

Protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mangor
Mae'r gwersyll wedi'i sefydlu i "amddiffyn darlledu yng Nghymru"

Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protest y tu allan i swyddfeydd BBC Cymru ym Mangor.

Maen nhw'n gwrthwynebu toriadau arfaethedig i'r cyfryngau yng Nghymru.

Fe sefydlon nhw 'wersyll dros dro' ar safle Bryn Meirion fore Llun gan anfon "neges glir", meddai nhw, i'r BBC yn Llundain mai "nid toriadau sydd eu hangen ond strategaeth a syniadau clir ar gyfer dyfodol llewyrchus i ddarlledu yma yng Nghymru".

Mewn e-bost at Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, dywedodd y gymdeithas, bod y cyfryngau yng Nghymru "o dan fygythiad" a hynny oherwydd y toriadau i S4C a'r BBC yng Nghymru.

"Galwn ar i reolaeth y BBC yn Llundain i dynnu allan o'u cytundeb gyda Llywodraeth San Steffan i uno S4C a'r BBC."

'Gweledigaeth newydd'

Yn ôl y gymdeithas, mae 'na "gonsensws eang" yng Nghymru bod y cynlluniau yn "anghywir" a bod "degau o filoedd o bobl wedi gwrthwynebu'r cynlluniau", gan gynnwys Archesgob Cymru ac arweinwyr y pleidiau Cymreig.

"Ar ôl refferendwm mis Mawrth, mae angen gweledigaeth newydd ar gyfer y cyfryngau i gyd yng Nghymru, nid torri'r ychydig wasanaethau sydd gennym ar hyn o bryd," meddai Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

'Ymrwymedig'

Mewn datganiad yn ymateb i'r brotest, dywedodd y BBC nad oedd penderfyniad Llywodraeth y DU i newid y modd caiff S4C ei ariannu "yn golygu bod y BBC yn gallu nac yn bwriadu cymryd S4C drosodd".

"Mae BBC yn hollol ymrwymedig i ddarpariaeth Gymraeg ac i S4C sy'n olygyddol annibynnol," meddai.

"Mae'r BBC hefyd wedi ei gwneud yn glir bod gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn parhau i fod yn ganolog i'r hyn mae'n ei wneud ar ei wasanaethau a bydd unrhyw benderfyniad ddaw ar ddiwedd y broses o gyrraedd targedau arbedion heriol yn gorfod cael eu cymeradwyo gan Ymddiriedolaeth y BBC."



HEFYD
'Toriadau ddim yn dderbyniol'
25 Mai 11 |  Newyddion
BBC o dan y lach
19 Mai 11 |  Newyddion
S4C: Protestio yn Llundain
30 Maw 11 |  Newyddion
S4C: Protestwyr yn trafod 'r BBC
11 Maw 11 |  Newyddion
200 yn protestio am S4C
19 Chwef 11 |  Newyddion
100 mewn protest am S4C
10 Ion 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific