Roedd Valentina Nafornita yn gantores bop cyn troi at opera
Y soprano Valentina Nafornita, o Moldova, ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2011. Enillodd y ferch 24 oed Wobr y Gynulleidfa hefyd - bellach wedi ei henwi'n Wobr y Fonesig Joan Sutherland - sy'n cael ei benderfynu gan wrandawyr a gwylwyr teledu. Y Fonesig Sutherland oedd un o feirniaid cynta'r gystadleuaeth a'i noddwr cyntaf hyd ei marwolaeth yn ddiweddar. Roedd Nafornita ymhlith pump o gantorion fu'n perfformio o flaen panel yn y rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd nos Sul. "Dwi mor hapus, rwy'n teimlo 'mod i yn y nefoedd ar hyn o bryd. Mae'n golygu popeth i mi," meddai'r gantores wedi'r gystadleuaeth. Roedd Meeta Raval o Loegr, Olysya Petrova o Rwsia, Hye Jung Lee o Dde Corea ac Andrei Bondarenko o'r Wcráin hefyd yn cystadlu am y brif wobr £15,000. Beirniaid Cipiodd y bariton Bondarenko wobr arall y gystadleuaeth, Gwobr y Datganiad, nos Wener. Bu Ms Nafornita yn perfformio rhaglen o waith y cyfansoddwyr Donizetti, Dvorak a Gounod. Ymhlith y beirniaid yr oedd y Fonesig Kiri Te Kanawa, yr arweinydd o Rwsia Alexander Polianichko, Lorenzo Mariani - cyfarwyddwr artistig Tŷ Opera Palermo yn yr Eidal, y mezzo-soprano Marilyn Horne, y tenor Dennis O'Neill a'r bariton Håkan Hagegård. Yn ogystal â'r brif wobr, cafodd Ms Nafornita hefyd Wobr y Gynulleidfa, gwerth £2,000. Roedd 600 o gantorion wedi ceisio am le yn y gystadleuaeth, sy'n cael ei chynnal pob dwy flynedd ac yn para wythnos. Cafodd 20 o gantorion o ar draws y byd eu dewis. Cafodd y digwyddiad ei sefydlu yn 1983 gan BBC Cymru. Ymhlith cyn enillwyr y mae Karita Mattila, Dmitri Hvorostovsky ac Ekaterina Scherbachenko.
|