British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 19 Mehefin 2011, 10:42 GMT 11:42 UK
Yr Eidal 6-56 Cymru (dan 20)

Rheon James
Rheon James sgoriodd un o'r wyth cais

Fe wnaeth tîm dan 20 Cymru guro'r Eidal 56-6 yn Treviso dydd Sadwrn.

Daw'r fuddugoliaeth ar ôl i Gymru gael eu chwalu 92-0 gan Seland Newydd ganol wythnos.

Roedd Cymru ar y blaen 28-6 ar yr hanner gyda Tom Young, Ross Jones, Luke Hamilton ac Eli Walker yn croesi'r llinell gais.

Yn yr ail hanner fe wnaeth Jon Evans, Rheon James, Rheon James, Rhodri Jones a Ed Siggery ymestyn mantais y Cymry.

Daeth 16 o'r pwyntiau o esgyd y maswr Matthew Morgan.

Ond oherwydd maint y grasfa gan y Crysau Duon mae'n annhebyg y bydd Cymru yn llwyddo i gyrraedd y rownd gyn derfynol.



HEFYD
Ariannin 8 Cymru 34
10 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific