British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Mehefin 2011, 13:45 GMT 14:45 UK
Di-euog o ladd Cymro

Jonathan Hiles
Bu farw Jonathan Hiles o anaf i'w ymennydd

Mae llys yng ngwlad Groeg wedi dyfarnu myfyriwr o Lundain yn ddi-euog o ladd Cymro oedd ar wyliau yno yn 2007.

Roedd Andrew Symeou o Enfield wedi ei gyhuddo o ddynladdiad Jonathan Hiles 18 oed o Gaerdydd mewn clwb nos ar ynys Zakynthos.

Disgynnodd Mr Hiles o ben podiwm dawnsio, a bu farw'n ddiweddarach o anaf i'w ymennydd.

Roedd Mr Hiles newydd orffen ei gwrs yng Ngholeg Glan Hafren yng Nghaerdydd.

Bu'n aelod o Dîm Iau Diawliaid Caerdydd ac roedd wedi cynrychioli Prydain mewn cystadlaethau hoci iâ a hoci ar olwynion yn Detroit ac yn Y Swistir.

Roedd Mr Symeou wedi gwadu iddo fod yn y clwb ar y pryd.

Mae wedi cael ei gadw yng ngwlad Groeg ers iddo gael ei estraddodi yng Ngorffennaf 2009.

'Atal camwedd dybryd'

Andrew Symeou
Roedd Andrew Symeou wedi gwadu ei fod yn y clwb ar y pryd

Mae mudiad Fair Trials International wedi bod yn ymgyrchu ers tro i ryddhau Andrew Symeou, gan ddweud fod llawer o'r dystiolaeth honedig yn ei erbyn yn dibynnu ar fanylion a gafwyd gan Heddlu gwlad Groeg wrth fygwth tystion.

Dywedodd yr elusen fod yr erlynydd yn y llys wedi argymell y dylai Mr Symeou gael ei ddyfarnu'n ddi-euog, ac fe gytunodd y rheithgor.

Mewn datganiad ar ddiwedd yr achos, dywedodd Mr Symeou:

"Does neb wedi ennill na cholli fan hyn, dim ond chwilio am y gwirionedd.

"Mae dyfarniad heddiw ond wedi atal mwy o anghyfiawnder, ac o bosib camwedd dybryd yn erbyn cyfiawnder.

"Doedd gen i ddim rhan o gwbl ym marwolaeth Jonathan Hiles, ac mae'r llys wedi cytuno.

"O'r diwedd gallaf ddychwelyd adre' a dechrau adeiladu fy mywyd o'r newydd."



HEFYD
Clegg i gwrdd theulu Jonathan Hiles
08 Tach 10 |  Newyddion
Protest am fyfyriwr yng Ngroeg
11 Ion 10 |  Newyddion
Myfyriwr yn cael ei estraddodi
23 Gorff 09 |  Newyddion
Dynladdiad: O flaen llys yng Ngroeg
01 Mai 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific