British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Mehefin 2011, 11:56 GMT 12:56 UK
Prif Weithredwr Conwy yn ymddiswyddo

Byron Davies
Cafwyd Byron Davies yn ddi-euog o'r cyhuddiad yn ei erbyn yn Llys y Goron

Mae Cyngor Conwy wedi dod i gytundeb gyda'u Prif Weithredwr Byron Davies, y bydd yn ymddiswyddo o'r swydd ddydd Gwener.

Cafodd Mr Davies ei wahardd dros dro o'r swydd wrth iddo wynebu achos troseddol o dreisio.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fis Ionawr, cafwyd Mr Davies yn ddieuog o dreisio dynes, ond cafodd ei wahardd o'i swydd tra bod y cyngor yn cynnal ei ymchwiliad disgyblu ei hun i gyhuddiadau yn ei erbyn, gan gynnwys rhai o fwlio staff.

Mae Mr Davies yn parhau i fod wedi ei wahardd gan fod y cyngor yn dweud fod rhagor o faterion disgyblu i ymchwilio iddyn nhw.

Cafodd Mr Davies ei gyhuddo o dreisio wedi iddo gael rhyw gydag un o weithwyr y cyngor, a oedd yn briod, ym mis Mawrth 2010.

Fe gafwyd ymchwiliad gan yr heddlu i'r cyhuddiad hwnnw ac fe'i cafwyd yn ddieuog fis Ionawr. Dywedodd y barnwr ei fod yn gadael y llys yn parhau i fod yn ddyn "o gymeriad da".

Camymddwyn

Ond mewn cyfarfod arbennig o'r cyngor yn ddiweddarach, fe gafwyd Mr Davies yn euog o gamymddwyn.

Mewn datganiad byr ddydd Gwener, dywedodd Cyngor Conwy:

"Drwy gydgytundeb, bydd Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Byron Davies, yn ymddiswyddo o'i swydd o Fehefin 17 2011.

"Mae trefniadau rheoli dros dro wedi bod mewn lle yn ystod ei absenoldeb a bydd y rhain yn parhau nes bydd ei olynydd yn cael ei benodi/phenodi.

"Ni fydd Mr Davies na'r Cyngor yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater."



HEFYD
Pennaeth wedi camymddwyn
18 Maw 11 |  Newyddion
Gwaharddiad pellach i brif weithredwr
15 Maw 11 |  Newyddion
Prif weithredwr yn ddieuog
26 Ion 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific