Bydd Esgob Llanelwy yn pregethu mewn gwasanaeth dathlu fore Sul
|
Bydd trigolion cymuned Carrog yn Sir Ddinbych yn cymryd rhan mewn dathliadau i nodi pen-blwydd eglwys y pentref yn 400 oed. Gan ddechrau ddydd Gwener fe fydd 'na nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y pentref dros y penwythnos. Fe fydd 'na ddigwyddiadau yn amlwg yn Eglwys y Santes Ffraid ond fe fydd 'na weithgareddau hefyd yn yr ysgol gynradd leol ac yn neuadd y pentref. Eisoes mae plant Ysgol Carrog wedi bod yn astudio hanes y Santes Ffraid fel rhan o'u gwersi, ac fe fyddan nhw'n treulio dydd Gwener yn dysgu am hanes y Beibl. Dydd Sadwrn, bydd arddangosfa o arteffactau o Eglwys y Santes Ffraid yn cael eu harddangos yn neuadd y pentref. Brenin Iago Bydd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Ddoctor Gregory K Cameron yn pregethu mewn gwasanaeth dathlu yn yr eglwys fore Sul. Dywedodd ficer Eglwys y Santes Ffraid, y Parchedig Bethan Scotford, bod pawb yn edrych ymlaen ar gyfer y dathliadau. "Rydym wedi anfon gwahoddiad at bawb yn y pentref. "Rydym yn gobeithio y bydd y gymuned yn dangos cymaint o feddwl sydd ganddyn nhw o'r eglwys ac yn dod i ddathlu gyda ni, gan ddangos pa mor bwysig ydi'r adeilad iddyn nhw." Yn ogystal â dathlu pen-blwydd adeilad yr eglwys, y mae hi hefyd yn 400 mlynedd ers cyhoeddi fersiwn y Brenin Iago o'r Beibl yn y Saesneg. Bydd y dathliadau yn adlewyrchu hynny, hefyd, gyda darlleniadau yn y Gymraeg a'r Saesneg yn Eglwys y Santes Ffraid ddydd Sadwrn.
|