British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Mehefin 2011, 12:58 GMT 13:58 UK
Undeb Rygbi Cymru yn gwahardd Mike Phillips

Mike Phillips
Daw'r gwaharddiad yn dilyn digwyddiad yng nghanol Caerdydd

Mae'r mewnwr Mike Phillips wedi ei wahardd o garfan Cymru am gyfnod amhenodol.

Dywed Undeb Rygbi Cymru fod y chwaraewr 28 oed wedi ei wahardd oherwydd iddo fethu a chadw at "y safon rydym yn ei ddisgwyl gan rywun sy'n rhan o'r garfan genedlaethol".

Daw'r gwaharddiad ar ôl nifer o straeon a lluniau trydar ynglŷn â digwyddiad y tu allan i glwb nos yng Nghaerdydd.

Bydd tîm rheoli Cymru nawr yn ystyried honiadau am ymddygiad y chwaraewr tra ei fod ar gyfnod o wyliau swyddogol cyn i'r garfan ddechrau hyfforddi ar gyfer Pencampwriaeth Cwpan y Byd.

Cafodd y chwaraewr wybod i beidio â dod i sesiwn ymarfer swyddogol ddydd Llun nesa.

"Tra bod y chwaraewr wedi ei wahardd mi fyddwn yn ceisio mwy o eglurhad am beth ddigwyddodd," meddai Roger Lewis, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru.

"Mae disgyblaeth ac ymddygiad o'r safon uchaf yn rhywbeth sy'n ganolig i safonau'r Undeb a ni allwn gyfaddawdu o gwbl ar hyn.

"Mae Mike Phillips yn chwaraewr hynod ond mae yna dystiolaeth sydd ar yr olwg gyntaf yn awgrymu ei fod yn ymddwyn mewn modd sy'n is na'r safon rydym yn ei ddisgwyl."

Yn gynharach yr wythnos hon daeth cadarnhad fod Phillips yn gadael y Gweilch ac yn arwyddo i dîm Bayonne o Ffrainc.



HEFYD
Carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd
05 Meh 11 |  Newyddion
Cymru'n colli i'r Barbariaid
04 Meh 11 |  Newyddion
Mike Phillips i adael y Gweilch
13 Ebr 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific