Mae'r cynllun pum mlynedd wedi ei gefnogi gan £5m o fuddsoddiant gan Network Rail
|
Mae elusen yn honni bod cynllun i hyfforddi staff y rhwydwaith rheilffordd wedi llwyddo i leihau nifer y bobl sy'n lladd eu hunain ar reilffyrdd Cymru. Dywedodd y Samariaid fod chwech o bobl wedi cyflawni hunanladdiad ar reilffyrdd Cymru rhwng Ebrill 2010 ac Ebrill 2011. Mae hyn yn dri yn llai na'r nifer o bobl wnaeth ladd eu hunain ar y rhwydwaith rheilffordd yn ystod yr un cyfnod rhwng 2009 a 2010. Yn ôl ystadegau'r elusen hefyd mae nifer y bobl a laddodd eu hunain ym Mhrydain wedi gostwng o 233 i 207 yn ystod yr un cyfnod. Mae dros 1,000 o staff mewn 220 lleoliad sy'n rhan o'r rhwydwaith rheilffordd ym Mhrydain wedi derbyn hyfforddiant arbenigol gan y Samariaid. Cymorth Mae'r cynllun pum mlynedd wedi ei gefnogi gan £5 miliwn o fuddsoddiad gan Network Rail. Mae'r cynllun yn cynnwys hyfforddi staff i annog unigolion i symud i ffwrdd o fannau peryg a chynnig cymorth i yrwyr trenau ar ôl achos o hunanladdiad. Dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr y Samariaid yng Nghymru: "Hon yw'r bartneriaeth gydlynol gyntaf i geisio lleihau'r nifer o bobl sy'n lladd eu hunain ar rwydwaith rheilffordd Prydain. "Er bod y gostyngiad yn y nifer o farwolaethau yng Nghymru yn fychan mae'n galonogol fod y niferoedd yn lleihau." Dywedodd David Higgins, Prif Weithredwr Network Rail: "Eisoes mae ein staff sydd wedi cael eu hyfforddi gan y Samariaid wedi ymyrryd i atal pobl rhag lladd eu hunain. "Mae pob achos o hunanladdiad yn drasiedi i deuluoedd y rheini sy'n lladd eu hunain yn ogystal ag effeithio ar staff a theithwyr."
|