British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Mehefin 2011, 17:07 GMT 18:07 UK
'Dim awydd o gwbwl' gan Ieuan i fynd i Dŷ'r Arglwyddi

Ieuan Wyn Jones
Dim diddordeb gan Ieuan yn Nhŷ'r Arglwyddi

Er bod Ieuan Wyn Jones wedi bod yn meddwl am fywyd wedi arwain Plaid Cymru "ers cyn yr etholiad," dydy dychwelyd i San Steffan ddim wedi croesi ei feddwl.

Mae Mr Jones wedi cyhoeddi ers cryn amser bellach ei fod am ildio'r awenau o fewn hanner cyntaf tymor y Cynulliad, ac yn dweud ei fod eisiau "troi ei feddwl" at bethau tu hwnt i wleidyddiaeth, er enghraifft ysgrifennu.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru mae'n dweud mai dyhead arall yw dechrau melin feddwl, neu 'think tank' ar sut mae creu polisïau yng Nghymru ddatganoledig.

'Dim awydd' arglwyddiaeth

Nid Tŷ'r Arglwyddi mo'r nod, a dilyn esiampl ei ragflaenydd fel arweinydd, Dafydd Wigley, sydd newydd ei urddo.

"Ro'n i'n gwybod nad o'n i'n mynd i arwain y blaid i mewn i etholiad arall, mae yna bethau dw i eisiau eu gwneud," meddai.

"Mae yna ddau neu dri chynllun gen i am lyfrau sydd ar y gweill ers yr 1990au nad ydw i wedi cael cyfle i wneud - dw i eisiau sgwennu mwy."

Felly dim arglwyddiaeth i Mr Jones.

"Does gynna i ddim awydd o gwbwl i fynd nôl i'r math yna o fywyd yn San Steffan.

"Er mod i'n ymwybodol iawn bod cyfraniad pwysig gan bobl fel Dafydd Wigley i'w wneud yn y maes yna...ond ddim i mi."

Maniffestos 'tebyg'

Mae'n gresynu "diffyg gwreiddioldeb" mewn datblygu polisi am fod "dim angen" cyn datganoli.

Bwriad wedi diosg mantell yr arweinydd felly yw creu fforwm i ystyried sut i greu polisi yn y Gymru fodern, ôl ddatganoli.

"Yn gyffredinol, mae polisïau yn tueddu i fod yn eithaf cul eu hapêl.

"Dw i yn teimlo bod angen i ni fel cenedl... edrych ar y ffordd yr ydan ni'n datblygu polisi.

"Fe fydda i eisiau gwneud hynny."



HEFYD
Ieuan: 'Rhaid i'r Blaid beidio encilio'
15 Meh 11 |  Newyddion
Arweinydd yn rhoi ei deulu gyntaf
13 Meh 11 |  Newyddion
'Presenoldeb dewisol' Plaid Cymru
08 Meh 11 |  Newyddion
Marathon o ras i arwain Plaid Cymru
14 Mai 11 |  Newyddion
Ieuan Wyn Jones i barhau i arwain
09 Mai 11 |  Newyddion
Strategaeth etholiadol o dan y lach
09 Mai 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific