British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Mehefin 2011, 10:55 GMT 11:55 UK
Giggs yn cymryd camau cyfreithiol

Ryan Giggs
Ryan Giggs sydd wedi ei enwi gan Aelod Seneddol

Mae'r pêl-droediwr Ryan Giggs wedi dechrau camau cyfreithiol yn erbyn papur newydd News of the World ynghylch honiadau o hacio i'w negeseuon ffôn symudol.

Dywedodd News International, perchnogion y News of the World a'r Sun, eu bod yn ymwybodol o'r camau cyfreithiol.

Mae Heddlu'r Met yn ymchwilio i honiadau bod y papur wedi hacio i negeseuon nifer o bobl gyhoeddus rhwng 2005 a 2006.

Yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Mai fe wnaeth yr Aelod Seneddol John Hemming ddweud mai Ryan Giggs gafodd ei enwi ar Twitter fel y pêl-droediwr a sicrhaodd orchymyn llys ynghylch perthynas honedig gyda'r fodel o Lanelli, Imogen Thomas.

Gwnaeth Mr Hemming hynny yn ystod cwestiwn brys yn Nhŷ'r Cyffredin.

Defnyddiodd fraint Seneddol i dorri'r gwaharddiad gan ddweud na fyddai'n ymarferol i garcharu'r degau o filoedd o ddefnyddwyr gwefan Twitter oedd wedi cyhoeddi'r enw.

Mae nifer o bobl gyhoeddus wedi dechrau gweithredu yn erbyn News International ynghylch honiadau o hacio i'w negeseuon ffôn symudol rhwng 2005 a 2006.

Yn ddiweddar, derbyniodd yr actores Sienna Miller setliad o £100,000 o iawndal a chostau ar ôl cael ymddiheuriad gan y cwmni am hacio i mewn i'w ffonau symudol.



HEFYD
AS yn enwi Ryan Giggs
23 Mai 11 |  Newyddion
Papur yn enwi pl-droediwr
22 Mai 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific